Llyfrgell Y Waun yn Dathlu ei Hanner Canmlwyddiant

 

Agorwyd Llyfrgell Y Waun (Chirk) ar 17eg o Fai, 1973 gan Lyfrgellydd y Sir, E.R Luke, mewn adeilad pwrpasol newydd.  Mae’r Llyfrgell yn 2023 yn dathlu ei hanner canmlwyddiant, ac mae’r staff yn brysur yn cynllunio gweithgareddau arbennig i ddathlu twf a datblygiad y gwasanaeth.  Mae’r llyfrgell, sydd ar agor 21 awr yr wythnos ac yn cael ei staffio gan Carolyn a Liz, yn darparu ystod eang o lyfrau ar gyfer pob oed a gallu, cyfleusterau TG, ac adnoddau ar-lein, a dyma’r unig lyfrgell o fewn awdurdod lleol Wrecsam sydd â dros 300 o jig-sos ar gyfer eu benthycwyr!

Mae’r llyfrgell yn cefnogi’r gymuned leol gyda rhaglen weithgareddau prysur sy’n troi’r gofod yn ganolfan cymunedol ffyniannus, yn cynnwys amseroedd stori i blant, grwpiau ysgrifennu creadigol, grwpiau gwnio, clwb Lego i deuluoedd, grŵp darllen a sesiynau ‘galw heibio’ cymorth ariannol. Mae yna ystafell gyfarfod fechan y gellir ei llogi gan aelodau’r cyhoedd.

Staff Llyfrgell y Waun

Cynhelir digwyddiadau awduron megis y prynhawn C&A gyda’r nofelydd llyfrau trosedd Simon McCleave yng Ngorffenaf 2022, a bydd y Llyfrgell yn croesawu Conrad Jones yn ystod Carnifal Geiriau Wrecsam eleni (22-29 Ebrill), sef gŵyl lenyddol flynyddol gwasanaethau’r llyfrgell. Mae gan y llyfrgell hefyd oriel gelf fechan a chabinetau arddangos sy’n cael eu defnyddio gan artistiaid lleol. Bob haf i helpu i hyrwyddo Sialens Ddarllen yr Haf mae Carolyn a Liz yn creu Helfa Drysor i blant ac oedolion i ddilyn o amgylch y dref, gan ymgysylltu â siopau a busnesau lleol i arddangos cliwiau gweledol. Maent yn hynod boblogaidd a dyma uchafbwynt calendr y llyfrgell.

Ym mis Gorffennaf 2022 creodd rheolwr y llyfrgell Dîm Grŵp Cymunedol, sy’n cynnwys cynghorwyr lleol, sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol sy’n cyfarfod yn y llyfrgell bob chwarter i drafod a chodi ymwybyddiaeth eu rhaglenni o ddigwyddiadau, gweithgareddau a rhannu syniadau gyda’r tîm ehangach sy’n chwilio am a nodi ffyrdd y gall aelodau’r tîm weithio mewn partneriaethau â’i gilydd i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i bobl Y Waun a’r cyffiniau.

Tedi'r Llyfrgell wedi gwisgo fel peilot

Mae’r llyfrgell yn Lle Diogel dynodedig. Mae’r cynllun Lle Diogel yn rhoi sicrwydd i bobl a allai deimlo’n fregus pan fyddan nhw’n mynd allan, gan eu helpu i fyw bywyd mwy annibynnol. Hefyd, yn ystod misoedd y Gaeaf, mae’r llyfrgell wedi bod yn Ofod Cynnes dynodedig sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd gadw’n gynnes mewn amgylchedd diogel yn ystod yr oriau agor, tra’n mwynhau’r cyfleusterau sydd ar gael a chael mynediad am ddim at ddiod gynnes… ac efallai sgwrs gyda masgot y llyfrgell breswyl Russ yr Arth a’i ffrind Sparkle!

Mae’r llyfrgell yn edrych ymlaen i ddathlu ei hanner canmlwyddiant gyda’u cwsmeriaid a’u cefnogwyr yn y gymuned!

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalennau gwe Llyfrgelloedd Wrecsam

Ebost: chirk.library@wrexham.gov.uk   
Ffon: 01691 772344

Twitter @LlyfrgellWcm | @WxmLibraries

Facebook  Llyfrgelloedd Wrecsam | Wrexham Libraries

Instagram Llyfrgelloedd Wrecsam | Wrexham Libraries

 

Llyfrgell y Waun

Chapel Lane
Y Waun
Wrecsam

LL14 5NF 

 

Oriau agor:

Llun 9am – 5.30pm

Mawrth 2pm – 5pm

Iau 2pm – 5pm

Gwener 9am – 5.30pm

Llyfrgell y Waun o'r tu allan

 

Cookie Settings