Llyfrgelloedd Abertawe yn Dathlu 50 Mlynedd o Statws Dinas

Dathlodd Abertawe 50 mlynedd fel dinas yn 2019, gyda Chyngor Abertawe’n arwain rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i nodi’r pen-blwydd arbennig hwn.

Fel gwasanaeth y cyngor, ac un â phresenoldeb cryf mewn nifer o gymunedau lleol, roedd Llyfrgelloedd Abertawe’n awyddus i gymryd rhan yn y dathliadau yn nodi 50 o flynyddoedd ers cyhoeddi dyfarnu statws dinas ym mis Gorffennaf 1969. Roedd y digwyddiadau i ddathlu’r penblwydd yn cynnwys gwisg ffansi, cerddoriaeth a chwisiau ar thema’r 1960au yn ogystal â gemau i blant. Roedd rhai llyfrgelloedd yn canolbwyntio ar y thema glanio ar y lleuad, er mwyn uno’r dathliadau â thema Sialens Ddarllen yr Haf.

Ymddangosodd y logo Abertawe@50 a gomisiynwyd yn arbennig mewn digwyddiadau’r llyfrgell, ar bosteri ac ar faneri ar gownteri a waliau’r llyfrgell. Roedd cerdyn pen-blwydd anferth Abertawe@50 ar gael i’r cwsmeriaid ei lofnodi, yn ogystal â llyfrau coffa, arddangosfeydd corfforaethol, a chadair gynfas enfawr ar thema Abertawe@50 ar gyfer hunluniau a lluniau eraill!  

     

Gweithiodd staff y Llyfrgell Gymunedol gyda chymdeithasau hanes lleol i gynnal arddangosfeydd erthyglau a lluniau o’r ardal leol dros y 50 mlynedd ddiwethaf, gydag atgofion penodol am 1969. Crëwyd yr arddangosfa fwyaf gan staff yn Llyfrgell Ganolog Abertawe a oedd yn cynnwys eitemau o’u casgliadau o luniau a phapurau newydd hanesyddol, a gefnogwyd gan arddangosfa o gloriau albymau gan gantorion, grwpiau a chorau lleol a gymerwyd o’r Casgliad Astudiaethau Lleol a gedwir yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.

Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o’r agenda gorfforaethol i hyrwyddo’r dathliadau ac roedd Llyfrgelloedd Abertawe wedi chwarae eu rhan trwy aildrydar negeseuon o gyfrif @50Abertawe ar dudalennau Trydar Llyfrgelloedd Abertawe @LlinellLlyfrau ac @DarganfodMwy ac ar Facebook. Gan barhau â thema #Abertawe50, roedd staff Llyfrgelloedd Abertawe hefyd wedi creu ymgyrch Cymraeg a Saesneg ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo #50FfaithamLyfrgelloeddAbertawe, yn seiliedig ar y syniad o hyrwyddo 50 o bethau efallai nad yw pobl yn eu gwybod am Lyfrgelloedd Abertawe.  Roedd y rhain yn cynnwys gwybodaeth gyfredol, ffeithiau hanesyddol a thrysorau cudd eu casgliadau, ac roedd rhai eraill yn tynnu sylw at adnoddau neu wasanaethau’r llyfrgell nad oedd cwsmeriaid o bosib yn ymwybodol ohonynt.

Crëwyd arddangosfa ychwanegol yn Llyfrgell Ganolog Abertawe o’r negeseuon hyn.  Rydym hefyd wedi gosod detholiad o’r deunydd ar ein gwefan www.libraries.swansea.gov.uk, fel y bydd ar gael i’r gynulleidfa mwyaf posib.

Roedd Llyfrgelloedd Abertawe hefyd wedi gweithio i gefnogi mentrau i hyrwyddo Abertawe 50 gan wasanaethau eraill y cyngor. Cyfrannom wybodaeth ac eitemau cerddoriaeth o’n Casgliad Astudiaethau Lleol ar gyfer ’50 Mlynedd o Gerddoriaeth yn Abertawe’, arddangosfa a drefnwyd gan y rhaglen CYFUNO a gynhaliwyd yn Amgueddfa Abertawe. Roedd staff hefyd wedi creu arddangosfa o ddeunydd am Evan Roberts a’r Diwygiad i hyrwyddo Calon Lân: The Musical, sioe a gynhaliwyd yn Theatr y Grand Abertawe ac a gomisiynwyd yn arbennig fel rhan o ddathliadau Abertawe 50.

   

Cynhaliwyd ein digwyddiad unigol mwyaf ac uchafbwynt dathliadau Abertawe 50 yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 14 Rhagfyr 2019 gyda sgwrs arbennig am daith Abertawe tuag at statws dinas, a oedd yn nodi trosglwyddo’r siarter statws dinas ym mis Rhagfyr 1969. Cyflwynwyd y digwyddiad, a ddarparwyd gan John Alban, cyn-archifydd y ddinas, gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Peter Black a chafodd groeso mawr gyda chynulleidfa mwyaf y flwyddyn!

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddathliadau 50 mlynedd fel dinas Abertawe (gyda chanmoliaeth i Lyfrgelloedd Abertawe!) yn yr adolygiad hwn o’r flwyddyn

 

 

Cookie Settings