Llyfrgelloedd ac ysgolion ledled Cymru yn dod at ei gilydd i annog plant i ddarllen

Mae cynllun, sy’n dod â llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd lleol at ei gilydd i wneud pob plentyn yn aelod o lyfrgell, yn cael ei roi ar waith heddiw gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Nod menter Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell yw gwella sgiliau llythrennedd, darllen a chyfathrebu plant ledled Cymru drwy gyflwyno iddynt y cyfoeth o ddeunyddiau sydd ar gael yn y llyfrgell leol – sy’n cynnwys amrywiaeth o lyfrau, llyfrau comics, llyfrau sain, cyfrifiaduron a chylchgronau – gan annog darllen am bleser.

Fel rhan o’r cynllun mae plant 8-9 oed yn cael cerdyn llyfrgell am ddim. Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn y lle cyntaf yn ardaloedd chwe awdurdod lleol ym mis Mawrth 2014, a heddiw mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith ledled Cymru.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod darllen am bleser yn bwysig i lwyddiant plant yn y dyfodol. Canfu astudiaethau cynnar ar effeithiau’r fenter hyd yma fod 94 y cant o blant yn hoffi darllen yn fwy ers iddynt fod yn defnyddio’r llyfrgell, ac roedd eu rhieni o’r farn bod eu plant wedi cael budd o ddefnyddio’r llyfrgell.

I ddathlu carreg filltir cyflwyno’r fenter i Gymru gyfan, bydd awduron Mike Church a Mark Brake yn ymuno â disgyblion o Ysgol Gynradd Hendre mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Caerffili heddiw [3 Rhagfyr].

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae’r cysylltiad hwn rhwng yr ysgolion a’r llyfrgelloedd yn ffordd wych o gyflwyno plant i lyfrgelloedd a chaniatáu iddyn nhw weld y cyfoeth o ddeunyddiau sydd ar gael, yn enwedig i’r rhai hynny na fydden nhw fel arall wedi cael y cyfle i wneud hynny.

“Mae gan ein llyfrgelloedd yr holl offer sydd ei hangen ar blentyn i ddatblygu ei sgiliau darllen, cyfathrebu, a digidol mewn amgylchedd sy’n llawn hwyl ac sy’n ysbrydoli. Mae’n lle gwych i’r plant ddewis llyfrau eu hunain, a dod i wybod beth sy’n well ganddyn nhw – boed yn genre neu’n awdur penodol – ac yn fwy pwysig, iddyn nhw gael eu hysbrydoli i fwynhau darllen.”

Yr hyn a ganfuwyd gan waith ymchwil a gafodd ei gynnal gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol ar gyfer Cronfa Achub y Plant yw os bydd plant, yn enwedig y rhai tlotaf, ar ei hôl hi o ran sgiliau darllen erbyn 11 oed, gall hynny gael effaith sy’n para am weddill eu bywyd, sydd hefyd yn effeithio ar eu hiechyd a’u cyfle i gael swydd.

Mae astudiaethau pellach wedi canfod bod y plant hynny sy’n darllen o oedran ifanc yn fwy tebygol o lwyddo o ran eu haddysg a’u gyrfa o’u cymharu â’r rhai hynny sy’n darllen yn anaml.

Ers i gynllun Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell ddechrau, mae dros 625 o ysgolion wedi ymaelodi, ac o leiaf 235 o’r rheini yn ysgolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Rhoddwyd cerdyn llyfrgell newydd i dros 12,700 o blant yn 2014-15, ac fel canlyniad i hynny cafodd 28,938 o lyfrau eu rhoi i’r plant â’u cardiau newydd dros gyfnod o dri mis yn unig. Gan fod pob un o’r 22 awdurdod lleol bellach yn cymryd rhan yn y cynllun, bydd dros 33,500 o ddisgyblion ym mlwyddyn 4 yn cael eu targedu yn 2015-16.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Rwy wrth fy modd bod y cynllun hwn wedi’i groesawu’n frwd, a’n bod yn cynnwys plant mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae ein rhaglen Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant yn anelu at gael mwy o bobl yn yr ardaloedd hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol fel modd o hybu sgiliau, hyder ac uchelgeisiau. Mae’r llyfrgelloedd yn cefnogi’r nod hwn, ac rwy’n falch bod 50 o lyfrgelloedd hyd yma yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn cymryd rhan drwy gysylltu â’u ysgol leol.”

Mae’r plant yn cael cerdyn llyfrgell yn awtomatig drwy’r cynllun, heb orfod cael llofnod gan riant neu warcheidwad. Mae’r cynllun yn cefnogi ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru: ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’ a ‘Rho Amser i Ddarllen’.

Cookie Settings