Llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn cipio gwobrau cenedlaethol am ragoriaeth marchnata.
Chwefror 27, 2015Mae staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru wedi mynychu digwyddiad gwobrwyo arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heddiw (dydd Gwener 27 Chwefror). Mae Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith ffantastig syn cael ei wneud gan staff mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ar draws Cymru, yn aml gydag adnoddau prin iawn.
Cafwyd dros bedwar deg o geisiadau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Marchnata eleni oddi wrth lyfrgelloedd, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau ledled Cymru. Ymhlith y categorïau roedd: arddangos rhagoriaeth marchnata; prosiect cydfarchnata y flwyddyn a hyrwyddwr marchnata y flwyddyn.
Maer gwobrau yn rhan o raglen Denur Gynulleidfa Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ac fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: Rydym yn awyddus i weld cynifer o bobl â phosib yn defnyddio ein gwasanaethau llyfrgell, amgueddfa ac archif rhagorol ym mhob cwr o Gymru er mwyn gallu elwa ar yr hyn sydd ar gael. Mae marchnata yn chwarae rhan bwysig wrth annog pobl i ddefnyddior cyfleusterau hyn ac rwyn falch ein bod yn cydnabod y gwaith cadarnhaol syn cael ei wneud ar draws y sector, er gwaethaf yr heriau.
Bu safon y ceisiadau yng ngwobrau eleni yn ardderchog; maen bleser gweld cynifer o enghreifftiau o arferion da o fewn y sectorau hyn a syniadau arbennig o arloesol.
Fe gafodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfle i glywed mwy am y ceisiadau buddugol, cwrdd âr beirniad a chlywed siaradwyr gwadd yn siarad am gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu âr wasg.
Cafodd yr holl geisiadau eu beirniadu gan Dr Jonathan Deacon, Darllenydd mewn Entrepreneuriaeth a Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru ac Ymddiriedolwr (cyn Gadeirydd) Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru. Dywedodd Dr Deacon:
Bûm yn beirniadur gwobrau hyn ers rhai blynyddoedd a rhaid dweud bod safon y ceisiadau, y syniadau arloesol a dyfeisgarwch y staff yn y tri sector yn dal i wneud argraff arnaf. Fe geir llawer o enghreifftiau o ragoriaeth ym maes marchnata y gellid yn hawdd eu defnyddio mewn unrhyw fusnes neu sefydliad o fewn Cymru.
Roedd llawer or ceisiadau yn isel o safbwynt cyllideb ond yn uchel o ran creadigrwydd gan brofi nad yw marchnata soffistigedig a llwyddiannus yn dibynnu ar gyllidebau mawr.
Roedd yr enillwyr yn derbyn tlws, tystysgrif ac amryw o wobrau gan gynnwys gweithdai marchnata a chyfarpar arbenigol iw galluogi i ddatblygu mwy ar eu sgiliau a gwella eu gweithgareddau marchnata.
I gael gweld rhestr lawn o enillwyr ar ceisiadau, ewch i http://welshlibraries.org/stafftoolkit/marketing-awards/