Llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn cipio gwobrau cenedlaethol am ragoriaeth marchnata.

Mae staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru wedi mynychu digwyddiad gwobrwyo arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heddiw (dydd Gwener 27 Chwefror). Mae Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud gan staff mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ar draws Cymru, yn aml gydag adnoddau prin iawn.

Cafwyd dros bedwar deg o geisiadau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Marchnata eleni oddi wrth lyfrgelloedd, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau ledled Cymru. Ymhlith y categorïau roedd: arddangos rhagoriaeth marchnata; prosiect cydfarchnata y flwyddyn a hyrwyddwr marchnata y flwyddyn.

Mae’r gwobrau yn rhan o raglen ‘Denu’r Gynulleidfa’ Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ac fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rydym yn awyddus i weld cynifer o bobl â phosib yn defnyddio ein gwasanaethau llyfrgell, amgueddfa ac archif rhagorol ym mhob cwr o Gymru er mwyn gallu elwa ar yr hyn sydd ar gael. Mae marchnata yn chwarae rhan bwysig wrth annog pobl i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ac rwy’n falch ein bod yn cydnabod y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar draws y sector, er gwaethaf yr heriau.

“Bu safon y ceisiadau yng ngwobrau eleni yn ardderchog; mae’n bleser gweld cynifer o enghreifftiau o arferion da o fewn y sectorau hyn a syniadau arbennig o arloesol.”

Fe gafodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfle i glywed mwy am y ceisiadau buddugol, cwrdd â’r beirniad a chlywed siaradwyr gwadd yn siarad am gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r wasg.

Cafodd yr holl geisiadau eu beirniadu gan Dr Jonathan Deacon, Darllenydd mewn Entrepreneuriaeth a Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru ac Ymddiriedolwr (cyn Gadeirydd) Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru. Dywedodd Dr Deacon:

“Bûm yn beirniadu’r gwobrau hyn ers rhai blynyddoedd a rhaid dweud bod safon y ceisiadau, y syniadau arloesol a dyfeisgarwch y staff yn y tri sector yn dal i wneud argraff arnaf. Fe geir llawer o enghreifftiau o ragoriaeth ym maes marchnata y gellid yn hawdd eu defnyddio mewn unrhyw fusnes neu sefydliad o fewn Cymru.

“Roedd llawer o’r ceisiadau yn isel o safbwynt cyllideb ond yn uchel o ran creadigrwydd – gan brofi nad yw marchnata soffistigedig a llwyddiannus yn dibynnu ar gyllidebau mawr.”

Roedd yr enillwyr yn derbyn tlws, tystysgrif ac amryw o wobrau gan gynnwys gweithdai marchnata a chyfarpar arbenigol i’w galluogi i ddatblygu mwy ar eu sgiliau a gwella eu gweithgareddau marchnata.

I gael gweld rhestr lawn o enillwyr a’r ceisiadau, ewch i http://welshlibraries.org/stafftoolkit/marketing-awards/

 

Cookie Settings