Llyfrgelloedd Cymru ar y blaen yn ystod Haf o Hwyl

 

Mae llyfrgelloedd yn parhau i synnu teuluoedd sy’n cerdded drwy eu drysau, a dyw’r haf eleni ddim yn eithriad.  Meddyliwch am ddawnsio, opera, gwylio’r lleuad, teithio i’r gofod, codio, iaith arwyddion a theithiau trên. A chreadigaethau hufen iâ a siocled, bywyd gwyllt, chwilota ar y traeth, gwneud mapiau… y cyfan rhwng y silffoedd llyfrau.

Nod Haf o Hwyl – gweithgareddau a digwyddiadau gwych am ddim sy’n cael eu hariannu fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru – yw helpu ymwelwyr ifanc (plant 4 – 11 oed yn bennaf) i archwilio’r byd o’u cwmpas mewn ffyrdd newydd. Mae Haf o Hwyl wedi’i ysbrydoli gan Sialens Ddarllen yr Haf sy’n hynod boblogaidd (Teclynwyr yw thema eleni ac mae’r cyfan am ddysgu STEM). Mae Haf o Hwyl wedi mabwysiadu’r enw Prosiect Teclynwyr ac mae’n agor calonnau a meddyliau i wyddoniaeth bob dydd… y dyfeisiadau a’r datblygiadau arloesol, y peiriannau a’r moduron, y lleuad a’r sêr, yr arfordir a newid hinsawdd, bywyd gwyllt a’r tywydd…

Pob clod i’r llyfrgellwyr sy’n cynnal digwyddiadau mor anhygoel ac sydd wedi recriwtio llysgenhadon ar gyfer yr uchod i gyflwyno gweithdai yn eu llyfrgelloedd. Ac i Techniquest sydd wedi cynnig gweithgareddau a syniadau ymarferol gwych (sydd i’w gweld ar ugeiniau o fyrddau mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled y wlad!) Ac i’r fyddin o hoff awduron plant ac awduron o Gymru sy’n cynnig eu syniadau eu hunain ar y thema drwy gyfrwng eu straeon bendigedig a’u gweithdai gwych. Mae’r rhestr yn cynnwys Eloise Williams, Huw Davies, Caryl Lewis, Sara Kilbride, Camilla Chester, Malachy Doyle, Casi Wyn, Mark Llewelyn Evans, Awen Schiavone, Casia Wiliam, James Carter, Mark Blayney, Sharon Marie Jones, Jon Blake, Tracy Hammett, Holly Rivers, Rob Williams… (gyda mwy yn ymuno â’r dathliadau o wythnos i wythnos).

“Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw, ac mae eu llyfrgell yn lle perffaith, cwbl hygyrch, am ddim i fynd ar antur haf,” meddai Nicola Pitman, cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru ac arweinydd ar yr ymgyrch ar ran llyfrgelloedd. “Ry’n ni’n cynnig rhaglen enfawr o weithgareddau ar hyd a lled Cymru i helpu i roi rhyddid i ddychymyg plant dros fisoedd yr haf.  Ac wrth gwrs, llyfrgelloedd yw’r gyrchfan gyntaf orau – a dyna fyddan nhw bob amser – i deuluoedd sydd eisiau darganfod a chael cyngor ar bethau eraill i’w gwneud gyda’i gilydd dros y gwyliau. A’r deunydd darllen am ddim y gallan nhw fynd gyda nhw pan fyddan nhw’n mynd!”

“Mae The Reading Agency yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant ledled y DU yn darllen eu ffordd i fywyd gwell,” ychwanega Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency, sy’n rheoli’r ymgyrch genedlaethol. “Bydd y fenter hon ledled Cymru yn gyfle i ni ddod â manteision darllen er lles i blant ym mhob cwr o’r wlad. Rydyn ni’n awyddus tu hwnt i gysylltu plant â’u llyfrgelloedd lleol, sy’n hybiau cymunedol mor werthfawr o greadigrwydd.”

#HafoHwyl #SummerOfFun

Cookie Settings