Llyfrgelloedd Cymru yn Estyn Allan i’r Byd Rhithiol
Mawrth 16, 2021Bydd gan staff llyfrgell ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru fynediad at becyn hyfforddiant digidol cyffrous, diolch i grant gan Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru.
Mae’r flwyddyn diwethaf wedi gweld newid enfawr yn y ffordd mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymreu wedi gallu cynnig eu gwasanaethau yn ystod pandemig Coronofeirws. Gyda chyfyngiadau sy’n golygu na all llyfrgelloedd agor eu hadeiladau ar gyfer pori, mae llyfrgelloedd wedi bod yn trawsnewid eu dulliau o ddarparu gwasanaethau a chysylltu gyda defnyddwyr.
Mae llyfrgelloedd wedi bod yn chwim i ddatblygu gwasanaethau i ehangu eu cynnig digidol fel e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronnau, yn ogystal ag amseroedd stori a rhigwm arlein, sydd eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol mewn defnydd ac aelodaeth. Fodd bynnag, roedd SCL Cymru (Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru) yn teimlo ei bod yn allweddol i gynnig rhaglen hyfforddiant a datblygiad i ehangu sgiliau, gwybodeth a hyder staff llyfrgell i lwyfannu gweithgareddau digidol dwyieithog ac i hyrwyddo cynigion a gwasanaethau llyfrgell, er mwyn galluogi llyfrgelloedd i gyrraedd eu potensial i ymgysylltu gyda darllenwyr a defnyddwyr llyfrgell arlein.
Dywedodd Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych, a arweiniodd ar y cais llwyddiannus am y grant ac sy’n cadeirio’r pwyllgor llywio,
“Mae’r grant hwn o £169,950 wedi ein galluogi ni i benodi Kerry Pillai o Lyfrgelloedd Abertawe fel cydlynydd i drefnu, cynllunio a darparu ystod o becynnau hyfforddiant i staff llyfrgell ledled Cymru. Bydd hwn yn hyfforddiant technegol ar ddefnyddio offer creiddiol ac apiau meddalwedd i greu a llwyfannu cynnwys digidol, ac hefyd gweithgareddau er mwyn i staff arbrofi ac ymarfer eu sgiliau – megis digwyddiadau awduron, sgyrsiau rhwng darllenwyr, trafodaethau grwpiau darllen, a gweithdai darlunio. Bydd prosiect Estyn Allan hefo yn galluogi awdurdodau i fuddsoddi mewn offer a meddalwedd creiddiol er mwyn cynhyrchu gweithgareddau a chynnwys o safon da.”
Dywedodd Nicola Pitman, Cadeirydd SCL Cymru,
“Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru am y lefel o gyllido sydd wedi ei ddarparu i lyfrgelloedd Cymru. Mae prosiect Estyn Allan yn brosiect o gydweithio agos ar draws holl wasanaethau llyfrgell cyhoeddus Cymru, ac fe fydd pob gwasanaeth yn elwa trwy rannu ymarfer da, arbenigedd a chysylltiadau, ac fe fydd ar gael i gynulleidfaoedd trwy Gymru benbaladr, gan godi proffil llyfrgelloedd Cymru a’r awduron ac arlunwyr fydd yn rhan o’r gweithgareddau.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas,
“Roeddwn yn hapus iawn i fedru degnofi’r prosiect hwn trwy ein Cronfa Adfer Diwylliannol ac rwy’n rhoi clod i SCL Cymru ar y fenter. Bydd prosiect Estyn Allan yn cyfrannu at wytnwch llyfrgelloedd i barhau i ymgysylltu gyda’u cynulleidfaoedd trwy’r cyfnod pandemig hwn a thu hwnt. Hyd yn oed pan ddaw gweithgareddau ffiesgol yn ôl, bydd cymdeithas a’n cynulledfaoedd wedi dod yn fwy cyfforddus gyda darpariaeth ddigidol ac yn disgwyl y bydd gwasanaethau llyfrgell yn darparu trwy amrywiaeth o sianelau.”
Mae prosiect Estyn Allan wedi cychwyn gydag awch, gyda 30 o hyfforddai yn mynychu gweminarau ar ddatblygu darllen mewn cyd-destun arlein, sgiliau cyfryngau cymdeithasol, a denu cynulleidfaoedd i weithgareddau llyfrgell. Mae’r cynllun 3 mis yn bwriadu darparu ystod cyffrous ac amrywiol o hyfforddiant gan gydweithio gyda phartneriaid allweddol yn myd llyfrau a chyoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Y disgwyl yw y bydd y rhaglen hyfforddiant yn creu sail er mwyn i Lyfrgelloedd Cymru hyrwyddo eu cynigion i gynulleidfaoedd sy’n bodoli eisoes a rhai newydd dros y misoedd nesaf, yn ogystal ag i’r dyfodol, trwy ddarparu prosiect sy’n ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd ac yn datblygu sgiliau a hyder staff fel gwaddol tymor hir.