LLYFRGELLOEDD CYMRU YN MYND YN GROES I WEDDILL PRYDAIN!
Ionawr 5, 2015Mae nifer y bobl syn benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru wedi codi bron i 5% yn y 12 mis diwethaf tra bo gweddill y Deyrnas Unedig at ei gilydd wedi gweld gostyngiad o dros 4% yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) ar gyfer 2013-14.
Tra bo ymweliadau â llyfrgelloedd ar llyfrau a fenthycwyd wedi gostwng rhyw fymryn, fe gafwyd dros 14 miliwn o ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru ac fe fenthycwyd dros 12.3 miliwn o lyfrau i ddefnyddwyr ar lyfrgelloedd.
Fe gododd y benthyciadau clyweledol ac electronig, gan gynnwys e-lyfrau ac e-gronau i dros 1 miliwn gan ddangos cynnydd mewn defnydd o 19% o gymharu âr llynedd. Elfen bwysig or cynnydd yw fod e-lyfrau ac e-gronau am ddim wediu rhoi ar waith fesul cam drwy Gymru gyfan. Mae hon yn enghraifft ragorol or ffordd y mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn parhau i gwrdd â gofynion newidiol cwsmeriaid trwy ddarparur gwasanaethau diweddaraf, syn berthnasol iddyn nhw.
Mae lefel yr ymholiadau a wnaed i staff llyfrgelloedd wedi codi 27% i dros 2.6 miliwn. A chyda llawer o wasanaethau cyhoeddus bellach yn cael eu cyflwyno ar lein yn bennaf, mae hyn wedi arwain at gynnydd o dros 3% mewn defnydd ar gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd, gyda thros 2 miliwn awr o ddefnydd am ddim ar gyfrifiaduron.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC:
Rwyn falch o weld y cynnydd yn nifer y benthycwyr gweithredol yng Nghymru ar cynnydd yn y benthyciadau electronig. Mae llyfrgelloedd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy wella llythrennedd, datblygu sgiliau digidol a darparu mynediad at wybodaeth, ac yn ei dro mae hyn o gymorth i fynd ir afael â thlodi a chefnogi iechyd a lles. Maer rhain yn flaenoriaethau pwysig i bawb ohonom.
Mae pob un ohonom yn wynebu amgylchiadau heriol ac maen amlwg fod angen i ni groesawu newid os ydym am sicrhau y bydd y gwasanaethau pwysig y mae llyfrgelloedd yn eu darparu yn gallu parhau. Yn wahanol i Loegr, rwyf yn ymrwymedig i gynnal gwasanaeth cymunedol o ansawdd. Yng Nghymru rwyf wedi cynnal Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a rhaglen grant cyfalaf sydd wedi dosbarthu nawdd i foderneiddio 98 o lyfrgelloedd hyd yn hyn. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1 miliwn ar gyfer y rhaglen hon ar gyfer 2015-16.
Yn ddiweddar bûm yn ffodus i ymweld â chyfleuster llyfrgell newydd syn rhan o Hyb Cymunedol Trelái a Chaerau. Roedd yn cynnwys yr holl wasanaethau y byddai llyfrgell draddodiadol yn eu darparu, mewn lle croesawgar, ond hefyd gyda gwybodaeth am dai, swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, ystafelloedd cyfarfod, ac Ystafelloedd Hyfforddiant TGCh. O ganlyniad, fe ddywedodd y rheolwr wrthyf fod aelodaur llyfrgell wedi cynyddu dros 60% wrth i bobl oedd erioed wedi defnyddio llyfrgell or blaen gael eu denu i mewn.
I gael gwybod mwy am lyfrgelloedd Cymru, ewch i www.llyfrgelloeddcymru.org
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR.
MALD@cymru.gsi.gov.uk
0300 062 2112
Nodiadau i Olygyddion
I gael gwybod mwy am lyfrgelloedd Cymru ewch i www.llyfrgelloeddcymru.org
Datganiad ir wasg CIPFA ar Lyfrgelloedd Cyhoeddus 2013-14
http://www.cipfa.org/about-cipfa/press-office/latest-press-releases/cipfa-library-survey
Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) ar y defnydd o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn 2013-14:
Mae dros 300 man gwasanaeth mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru ar agor 10 awr yr wythnos neu fwy, gan gynnwys llyfrgelloedd symudol
Bu dros 14.1 miliwn o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru (14,193,602)
Nifer y benthycwyr gweithredol yw 574,296 (wedii ddiffinio fel benthyg eitem yn y 12 mis diwethaf)
Benthycwyd dros 12.3 miliwn o lyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru (12,396,142)
Benthycwyd dros 1 miliwn o eitemau clyweledol, gan gynnwys cerddoriaeth, llyfrau llafar, ffilmiau, e-lyfrau ac e-gronau (1,033,807)
Mae dros 2800 terfynell gyda mynediad am ddim ir rhyngrwyd yn llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru (2833)
Bur cyhoedd yn defnyddio dros 1.9 miliwn o oriau am ddim ar gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd (1,968,067)
Bu dros 2.6 miliwn o ymholiadau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru (2,660,559)