Llyfrgelloedd Sir Benfro yn Ennill y Wobr Arian am Ymrwymiad i Ofalwyr Di-dâl

 

Mae’r holl lyfrgelloedd a’r gwasanaethau cysylltiedig wedi cyflawni eu gwobr Buddsoddwyr mewn Gofalwyr Lefel Arian; cynllun a gyflwynir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac a gefnogir gan ei awdurdod lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cafodd y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr ei gynllunio’n wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel meddygfeydd, ardaloedd o fewn ysbytai a sefydliadau eraill i wella a chanolbwyntio ar ymwybyddiaeth o ofalwyr a gwella’r cymorth a’r gefnogaeth maen nhw’n ei roi i ofalwyr di-dâl o bob oedran.

Aseswyd cyflwyniad Llyfrgell Penfro yn erbyn y chwe thema o fewn y cynllun: Arweinydd Gofalwyr, hyfforddiant staff, adnabod, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr, a gwerthuso.

Dywedodd yr asesydd fod cynnwys y cyflwyniad yn cynnwys gwaith ardderchog ar draws pob safle a’i fod yn hawdd i’w ddilyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae’r broses wobrwyo hon wedi cynnwys llawer o waith caled ac ymdrech gan staff y Gwasanaethau Llyfrgell, ac mae’n wych gweld yr ymdrechion hynny’n cael eu gwobrwyo.  

Ni allai fod yn fwy addas bod y wobr hon yn cael ei chyflwyno ar adeg pan fo rôl gofalwyr hyd yn oed yn bwysicach nag erioed, o ystyried y pwysau a welwn ar hyn o bryd ar ein gwasanaethau iechyd.  

“Mae ein llyfrgelloedd bob amser yn lleoedd cynnes a chroesawgar a gobeithiwn fod y wobr hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i amlygu, ymgysylltu â gofalwyr yn Sir Benfro a’u cefnogi. Hoffwn ddiolch hefyd i’r gofalwyr eu hunain sy’n gweithio mor galed, a hynny’n aml tu ôl i’r llen, i ofalu am anwyliaid. Dylech wybod eich bod yn cael eich gwerthfawrogi ac rydym yn cydnabod eich gwaith anhygoel bob dydd.”

Dywedodd Anita Thomas, Rheolwr Llyfrgelloedd: “Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr Arian. Mae staff y llyfrgelloedd wedi gweithio’n galed iawn ac wedi dangos brwdfrydedd mawr wrth adnabod gofalwyr di-dâl yn ein holl lyfrgelloedd.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sy’n gysylltiedig. Mae wedi codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd gofalwyr di-dâl yn y gymuned. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb o ran eu hamlygu a’u cefnogi. Yn aml, nid ydyn ni’n sylweddoli sut y gall treulio amser yn unig yn gwrando, cynnig gair caredig neu’r weithred leiaf gael yr effaith fwyaf.

Casglodd y llyfrgelloedd dystysgrifau gan Swyddog Datblygu Cymunedau Cefnogol i Ddementia Cymdeithas Alzheimer Cymru am weithio i fod yn Ystyriol o Ddementia.

Os oes angen gwybodaeth pellach, cysylltwch â Laura Evans, Llyfrgelloedd Sir Benfro  laura.evans@pembrokeshire.gov.uk

 

Cookie Settings