Llyfrgelloedd yn Cefnogi eu Cymunedau mewn Amserau Heriol

Roedd llyfrgelloedd ymhlith y cyntaf i ddechrau darparu gwasanaeth i’w cymunedau yn dilyn addasiad i’r rheoliadau gan alluogi awdurdodau lleol i ddechrau’r broses o gynllunio sut i ailagor eu llyfrgelloedd yn ddiogel ym mis Mai.

Dechreuodd y dull gweithredu fesul cam drwy gynnig gwasanaeth benthyciadau ‘clicio a chasglu’. Er mwyn cefnogi’r costau ychwanegol a gronnwyd o ganlyniad i’r cynnig hwn, cyfrannodd Llywodraeth Cymru £5,000 fesul awdurdod lleol o’r Gronfa Cydnerthu Diwylliannol gwerth £1 filiwn i gefnogi llyfrgelloedd drwy gyfnod adfer yr argyfwng.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy’r Llyfrgell Ddigidol.

Ym mis Ebrill, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £250,000 tuag at adnoddau llyfrgelloedd digidol. Mae llyfrgelloedd wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer yr unigolion sy’n defnyddio adnoddau digidol. Mae Bolinda, un o brif ddarparwyr e-lyfrau ac e-lyfrau yng Nghymru drwy wasanaeth Borrowbox, wedi tynnu sylw at y ffaith mai cyfanswm y benthyciadau oedd 186,002 o Ebrill i Awst 2019 a chynyddodd y ffigur hwn i 394,089 ar gyfer yr un cyfnod yn 2020, cynnydd o 112% mewn benthyciadau.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy’r Llyfrgell Ddigidol.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas; “Rwy’n falch bod yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Llyfrgelloedd i barhau i ddarparu gwasanaethau digidol drwy’r pandemig. Mae llyfrgelloedd wedi parhau i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi eu cymunedau.”

Yn unol â’r brîff a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol Ddigidol, gwariodd pwyllgor stoc llyfrgelloedd Cymru y rhan fwyaf o’r arian ychwanegol ar stoc a fyddai’n:

  • Gwella iechyd a lles defnyddwyr llyfrgelloedd yng Nghymru
  • Cefnogi darllen, dysgu a datblygiad plant yn ystod y cyfnod clo a thu hwnt.
  • Caffael adnoddau Cymraeg i deuluoedd

Roedd yr arian ychwanegol yn galluogi prynu nifer gynyddol o deitlau i gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Darparodd Llywodraeth Cymru £40,000 o’r Gronfa Cydnerthu Diwylliannol i gefnogi’r newid yn Sialens Darllen yr Haf i lwyfan digidol oherwydd y cyfyngiadau ar fynediad i adeiladau llyfrgelloedd ffisegol yn ystod yr argyfwng.

Mae cyfoeth o deitlau iechyd a lles hefyd ar gael ar Borrowbox, diolch i’r cyllid ychwanegol, gydag ymgyrch hyrwyddo yn rhedeg am 6 wythnos o ddechrau mis Medi. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys y themâu ‘Ymegnio ac ailganolbwyntio’, ‘Ymdopi â Heriau Bywyd’ a ‘Byw’n Dda’.

Gwnaeth y buddsoddiad ddiwedd mis Mai hwyluso cynnydd cyffredinol sylweddol o 157% mewn benthyciadau teitlau i gefnogi iechyd a lles darllenwyr, gyda benthyciadau e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn y categori hwn yn dod i gyfanswm o 13,538 rhwng Ebrill a Awst yn 2020 o’i gymharu â 5,259 yn 2019.

Gwnaeth y buddsoddiad hefyd hwyluso prynu 217 o deitlau e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ‘mynediad ar y pryd’, sydd, yn ogystal â bodloni’r galw am deitlau ‘gwerthwyr gorau’, wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i alluogi creu Grŵp Darllen Ar-lein Cymru ym mis Ebrill, i gefnogi darllenwyr nad ydynt yn gallu cyfarfod yn eu lleoliadau grŵp llyfrau arferol.

Dywedodd Nic Pitman, Rheolwr Arweiniol y Llyfrgell a’r Strategaeth yng Ngwasanaethau Cyngor Caerdydd, a Chadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, “Rydym yn falch iawn bod darllenwyr ledled Cymru, yn y cyfnod heriol hwn, wedi gallu cael gafael ar ystod ehangach o ddeunydd nag erioed o’r blaen o adref.

“Er y bu manteision ar draws y sbectrwm oedran, mae llawer o ddefnyddwyr hŷn yn arbennig wedi bod yn darganfod adnoddau digidol fel e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am y tro cyntaf. Roeddem wrth ein bodd o glywed gan gwsmer hyfryd yn ei nawdegau sydd, gyda chymorth cymydog cyfeillgar, bellach yn rhoi cynnig ar y rhain, a chyda manteision hygyrchedd mor glir gallant fod yn achubiaeth.

“Bydd yr adnoddau rhad ac am ddim a hygyrch yma yn parhau i chwarae rhan bwysig a chynyddol mewn cynhwysiant digidol, gan roi’r llyfrgell wrth wraidd y profiad ar-lein ledled Cymru.”

Dywedodd Robert Lacey, Pennaeth Isadran Datblygu Casgliadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, “Mewn cyfnod pan nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i lyfrgell na benthyg llyfr go iawn i fynd adre mae adnoddau y Llyfrgell Ddigidol Cenedlaethol wir wedi dangos eu rhagoriaeth.

“Mae’n dda gweld bod cynifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd yng Nghymru wedi cael budd ac yn parahau i gael budd o’r ystod adnoddau ar-lein sydd ar gael iddynt.
Mae twf yr ystadegau defnydd yn dystiolaeth syml ond effeithiol i’w poblogrwydd a’r gobaith yw y bydd y defnydd diweddar hwn yn troi’n ddefnydd tymor hir ac yn magu cenhedlaeth o ddarllenwyr cyson beth bynnag yw’r sefyllfa yn y byd sydd ohoni.”

Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer ailagor adeiladau llyfrgelloedd cyhoeddus yn llawn.

Cookie Settings