Llywodraeth Cymru yn Buddsoddi £1.7m i Drawsnewid Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru

 

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi y bydd rhai o hoff amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru yn cael eu trawsnewid ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu swm o £1.7 miliwn.

Nod y Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yw galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, i foderneiddio’u cyfleusterau ac i greu modelau darparu mwy cynaliadwy. Un o amcanion eraill y Rhaglen yw eu galluogi i gydweithio ar ddarparu gwasanaethau ac i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i bobl a chymunedau.

Ers 2017, pan gafodd y rhaglen ei hestyn i gynnwys amgueddfeydd ac archifau, mae dros £9 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer sefydliadau ledled Cymru, gan helpu i drawsnewid y gwasanaethau hanfodol hynny. Mae’r buddsoddiad hwn, y mae mawr ei angen, yn helpu i foderneiddio cyfleusterau, i greu modelau darparu mwy cynaliadwy, i hyrwyddo cydweithio ar ddarparu gwasanaethau, ac i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i bobl a chymunedau. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella mynediad, ar weithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio, a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy.

Bydd y buddsoddiad o dan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn cael ei rannu dros y ddwy flynedd nesaf rhwng amgueddfeydd a llyfrgelloedd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • £268,682 er mwyn ailwampio Llyfrgell Ystradgynlais ym Mhowys.
  • £300,000 Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe – Adleoli’r llyfrgell ganolog fel rhan o gynlluniau i adfywio canol y ddinas
  • £147,000 ar gyfer prosiect bibliotherapi yn Hybiau a Llyfrgelleodd Caerdydd, a fydd yn helpu cleifion i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well drwy ddarllen.
  • £135,000 ar gyfer arddangosfeydd digidol rhyngweithiol newydd ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Rhondda Cynon Taf.
  • £149,997 er mwyn datblygu Llyfrgell Arberth, Sir Benfro.
  • £120,534 i wella effeithlonrwydd Amgueddfa Arberth, Sir Benfro.
  • £110,000 er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni yng Nghastell y Fenni, Sir Fynwy.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Dw i’n falch iawn o gael cyhoeddi’r prosiectau llwyddiannus a fydd yn cael y cyllid hwn dan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n ein galluogi i fuddsoddi’n sylweddol yn ein sectorau diwylliannol lleol. 

“Mae’r cylch cyllid hwn yn cefnogi amrywiaeth eang o fentrau: bydd yn fodd i drawsnewid lleoedd er mwyn i gymunedau fedru gwneud gwell defnydd ohonynt, a bydd yn gwella mynediad a chyfranogiad. Bydd hefyd yn cefnogi iechyd a lles defnyddwyr, ac yn fodd i sicrhau bod casgliadau’n cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r cymorth a ddarperir gan ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n llyfrgelloedd lleol yn hanfodol er mwyn helpu cymunedau yng Nghymru i ffynnu, ac mae hynny’n fwy gwir heddiw nag erioed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i roi’r cymorth hwnnw, y mae mawr ei angen ar sefydliadau sy’n rhan annatod o Ddiwylliant Cymru, er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn parhau i gael manteisio ar weithgareddau celfyddydol a diwylliannol.”

Mae’r dyfarniad ariannol i gefnogi prosiect Datblygu Llyfrgell Arberth yn gyfraniad at raglen adfywio sylweddol i drawsnewid Hen Ysgol Arberth, adeilad sydd wedi bod yn wag ers dros ddegawd, yn gyfleuster aml-ddefnydd. Bydd y llyfrgell 58% yn fwy na’r cyfleusterau presennol, mewn lleoliad mwy gweladwy, canolog, a haws mynd ato yng nghanol y dref.

Bydd y cyllid ar gyfer Llyfrgell Ystradgynlais yn helpu gyda’r gwaith o ailwampio’r  llyfrgell er mwyn cwrdd â gofynion y gymuned, gyda mwy o bwyslais ar fynediad digidol â chymorth o leoliad cymunedol dibynadwy, gan leihau effeithiau amgylcheddol yr adeilad ac atal teithio diangen.

Bydd y prosiect a fydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Hybiau/Llyfrgelloedd Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ehangu mynediad at adnoddau therapiwtig a gwasanaethau llyfrgelloedd er mwyn helpu cleifion i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well.  Bydd y prosiect yn defnyddio cynllun presennol Llywodraeth Cymru – y Cynllun Presgripsiwn Llyfrau a’r cynllun Darllen Llesol ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff yn y lleoliad iechyd drwy ddefnyddio peiriannau dosbarthu llyfrau.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo cyllid gwerth £146,000 ar gyfer Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, ym Merthyr Tudful. Bydd y cyllid hwn yn ariannu man storio oddi ar y safle, fydd â’r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer adleoli storfa gelf yr amgueddfa ac a fydd yn cynnig gwell mynediad i’r casgliad i’r cyhoedd.

Mae gwybodaeth am bob prosiect sy’n cael ei ariannu drwy’r grantiau diweddar i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cookie Settings