Mae Scorch yn cuddio yn eich llyfrgell leol!

Bydd cystadleuaeth ar gyfer plant 12 mlwydd oed ac iau yn cael ei chynnal mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a bydd cyfle i ennill gwobrau ffantastig Undeb Rygbi Cymru!

Mae’r gystadleuaeth yn ceisio annog plant i ddarganfod beth sydd ar gael i’w ddarganfod yn eu llyfrgell leol ac fe’i chynhelir mewn llyfrgelloedd ledled Cymru rhwng 7 Chwefror a 19 Mawrth 2016 i gyd-daro â Phencampwriaeth 6 Gwlad RBS.

Bydd raid i blant ddarganfod lle mae Scorch, mascot Undeb Rygbi Cymru, yn cuddio yn eu llyfrgell leol a llenwi ffurflen fer i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae yna wobrau ffantastig ar gael gan gynnwys crysau Undeb Rygbi Cymru, waledi WRU, bathodynnau pin a phecynnau gweithgarwch.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae hwn yn syniad creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ledled Cymru fanteisio ar dwrnamaint Chwe Gwlad eleni gan wneud yn fawr o’r cyfleusterau yn eu llyfrgell leol hefyd. Mae 2016 yn Flwyddyn Antur yng Nghymru felly byddwn yn sicr yn annog pawb i gymryd rhan yn y gystadleuaeth anturus hon. Wrth chwilio am Scorch beth am ddefnyddio’r cyfle hefyd i ddarganfod eich hoff lyfr neu holl awdur nesaf.”

I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth a gweld y telerau ac amodau ewch i: www.llyfrgelloeddcymru.org

Cookie Settings