Mae StoryTrails yn dod i Abertawe a Chasnewydd!

Mae StoryTrails yn brofiad storïol ymdrwythol unigryw sy’n cael ei gynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y DU yr Haf yma. Mae’r prosiect yn un o ddeg prosiect sydd wedi’u comisiynu fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK. Mae StoryTrails yn dod â straeon newydd yn fyw gan ddefnyddio realiti estynedig a rhithwir yn ogystal â thrwy archif ffilm na welwyd erioed o’r blaen . Bydd Llyfrgell Ganolog Abertawe (10 a 11 Awst) a Llyfrgell Dinas Casnewydd (13 a 14 Awst) yn cynnal ystod o brofiadau trochi rhad ac am ddim a grëwyd gyda’r gymuned leol. Os na allwch ymweld ag Abertawe a Chasnewydd dros ddyddiau’r digwyddiad, gallwch lawrlwytho’r ap am ddim ac archwilio’r fersiwn ‘gartref’ o’r llwybr realiti estynedig a ddatblygwyd gan bobl greadigol lleol.

Mae Her Ddarllen Haf flynyddol yr Asiantaeth Ddarllen, sy’n annog dros 700,000 o blant i ddarllen am bleser dros wyliau’r haf wedi ymuno â StoryTrails i ddatblygu cyfres o adnoddau am ddim i lyfrgelloedd ac ysgolion eu lawrlwytho. Bydd y Get Immersive with the Gadgeteers Activity Toolkit yn eich helpu i archwilio themâu arloesedd, technoleg ac adrodd straeon trochol gyda’r technoleg yn amrywio o hawdd i fwy cymleth i sbarduno’ch dychymyg.

Nod y cydweithrediad rhwng StoryTrails a Her Ddarllen yr Haf yw rhannu pŵer adrodd straeon trochol gyda phlant a theuluoedd ar draws y genedl yn ogystal â hyrwyddo llyfrgelloedd, gan ddathlu eu safle fel canolfannau arloesi yn y gymuned.

Mwy o wybodaeth:

Am ragor o fanylion am StoryTrails, ewch i story-trails.com a thrwy @StoryTrailsProject Facebook ac Instagram a @StoryFuturesA ar Twitter

Lawrlwythwch yr ap (sydd ar gael ar Apple ar hyn o bryd), dewch o hyd iddo drwy chwilio Story-Trails ar y siop apiau. Nodwch y bydd cynnwys Abertawe ar gael ar yr ap Story-Trails o’r 10 Awst a’r 13 Awst ar gyfer Casnewydd. Bydd yr ap ar gael ar Android yn ddiweddarach yn y mis.

Am fwy o fanylion am ymweliad Sialens Ddarllen yr Haf eleni, ewch i summerreadingchallenge.org.uk

 

Storytrails Logo

Cookie Settings