Menter siopa ar-lein newydd a lansiwyd gan Y Llinell Fusnes o Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam

Lansiwyd Wrecsam Rhithwir yn swyddogol Ddydd Llun y Pasg (6 Ebrill) sef cyrchfan siopa ar-lein Wrecsam: www.virtual-Wrecsam.co.uk

Dechreuodd Llinellfusnes, sef gwasanaeth yn Llyfrgell Wrecsam weithio ar y cysyniad Wrecsam Rhithwir yn 2014, gyda’r bwriad o greu cynllun newydd a chyfleus i brynu’n lleol, er mwyn galluogi trigolion ynghyd â phobl sy’n byw y tu hwnt i ardal Wrecsam, i gefnogi busnesau a leolir yn Wrecsam, o gysur eu cartrefi.

Fel gwasanaeth sydd gan fwyaf yn cynorthwyo busnesau am ddim, yn ddyddiol bydd Llinellfusnes yn gweithio gyda busnesau newydd a busnesau sydd eisoes wedi eu sefydlu, ac o ganlyniad mae yn y sefyllfa ddelfrydol i werthfawrogi bod Wrecsam yn gartref i amrywiaeth eang o fanwerthwyr sy’n amrywio o wneuthurwyr celf a chrefft cywrain, dylunwyr ffasiwn, cynhyrchwyr nwyddau iechyd a harddwch, pobyddion a llawer mwy. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i unigolion sydd yn cynllunio neu sydd eisoes wedi cymryd y cam dewr i lansio eu busnes eu hunain, gan fasnachu drwy fan gwerthu, ffeiriau crefftau, digwyddiadau awyr agored ac arddangosfeydd.

Dau o’r materion pwysicaf y bydd busnesau newydd yn eu hwynebu yw: cynhyrchu digon o arian i fod yn gallu buddsoddi mewn siop, a chodi ymwybyddiaeth o’u nwyddau’n effeithiol. O ganlyniad i’r rhyngrwyd, mae lansio busnes arno’n cael ei ystyried yn gost effeithiol, gyda llwyfannau siopa ar-lein megis eBay, Etsy a Folksy yn boblogaidd iawn a bydd sawl busnes yn dewis datblygu eu gwefan e-fasnach eu hunain.

Fodd bynnag oherwydd i’r rhyngrwyd fod yn farchnad mor gystadleuol, nid yw bob amser yn hawdd i bobl ddod o hyd i nwyddau unigryw, nwyddau gwreiddiol, a nwyddau a wneir â llaw yma neu sy’n cael eu gwerthu yn Wrecsam.

Yn ei hanfod, mae’r fenter Wrecsam Rhithwir yn darparu stryd fawr rithwir sydd wedi ei anelu at ddangos a chodi ymwybyddiaeth o fusnesau a leolir, ac sy’n gwerthu ar-lein i bobl sy’n byw yn yr ardal a thu hwnt i Wrecsam. Prif amcan y prosiect yw dod ag arian a chadw arian yn economi Wrecsam.

P’un ai ydych yn chwilio am nwyddau a wneir gartref, nwyddau unigryw, neu eitemau sy’n cael eu gwerthu yn Wrecsam, bellach gallwch ganfod dewis ffantastig ar stryd fawr Wrecsam Rhithwir a byddwch yn cefnogi busnesau lleol rhagorol.

Drwy brynu gan fusnesau a leolir yn Wrecsam, byddwch yn helpu datblygu ac atgyfnerthu’r economi leol, a gallai hyn arwain at fentrau yn codi digon o arian i fod yn gallu agor siop, os nad oes ganddynt siop eisoes ar y stryd fawr yn Wrecsam, a chreu cyfleoedd gwaith newydd hefyd.

Dywedodd Gareth Hatton o Llinellfusnes, sydd wedi datblygu’r cysyniad ac a fydd yn rheoli’r fenter; “Dywedodd llawer o bobl yr wyf wedi siarad â nhw dros y blynyddoedd eu bod yn frwd am gefnogi pobl leol sydd â’u busnesau eu hunain, ac o ganlyniad roeddem am ddileu’r rhwystrau neu’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â hyn, megis oriau agor arferol siopau a’i bod yn eithaf anodd nodi’r busnesau lleol sy’n gwerthu ar-lein. Yn ogystal â dangos beth sydd gan Wrecsam i’w gynnig, rydym yn wir obeithio y bydd Wrecsam Rhithwir yn helpu i wella graddau goroesiad busnesau; mae’n biti mawr fod cymaint o fusnesu yn cau am y rheswm nad yw bobl yn ymwybodol o’r amrywiaeth ffantastig o nwyddau sydd ar gael yn anffodus. Amcan pwysig arall y prosiect yw helpu busnesau i godi’r cyllid ychwanegol er mwyn iddynt allu buddsoddi mewn siop, gan ddod â mwy o fasnachwyr annibynnol i’r dref a chreu stryd fawr fwy dirgrynol, bydd cam dau’r prosiect yn helpu’r agwedd hon ymhellach yn hyn o beth.”

Ychwanegodd Saffy Allen o Be.Loved Handbags: “Credaf yn gryf mewn cefnogi busnesau lleol a thybiaf nad yw’r cyfoeth o sgiliau a thalentau sydd gennym yma yn yr ardal, yn cael ei werthfawrogi a’i hyrwyddo ddigon. Mae lleoliad Handbag HQ yn Wrecsam yn ddelfrydol i mi; mae pob un o’m cyflenwyr o siwrnai awr ac mae menter Wrecsam Rhithwir yn mynd i’w gwneud yn llawer haws i bobl fel fi, sydd am gefnogi cynhyrchwyr eitemau arbennig ac unigryw lleol er enghraifft. Ni allaf aros i ddod o hyd i rai trysorau cudd hefyd!”

I gael gwybod am y siopau newydd sy’n cael eu hychwanegu at wefan Wrecsam Rhithwir, manylion nwyddau newydd fydd ar gael gan y darparwyr presennol ynghyd ag unrhyw arwerthiannau, neu ymgyrchoedd hyrwyddo a gynhelir, mae croeso i chi ddilyn Wrecsam Rhithwir ar:

Facebook:        www.facebook.com/VirtualWrecsam

Twitter:           www.twitter.com/VirtualWrecsam

Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi cysylltu â Llinellfusnes:

Ffôn: 01978 292092    E-bost: Llinellfusnes@Wrecsam.gov.uk

 

Cookie Settings