Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg

Mae hunangofiant yr awdur arobryn Matt Haig am ei brofiad o iselder wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg fel rhan o gynllun arloesol Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl.

Mae Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, sydd i’w weld yn gyson ar restrau’r gwerthwyr gorau, ymhlith y cyfrolau hunangymorth diweddaraf i’w cyhoeddi yn y Gymraeg i helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’r teitlau newydd eraill yn y gyfres Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn (A Mindfulness Guide for the Frazzled) gan Ruby Wax, Llawlyfr ar gyfer Dolur Calon (A Manual for Heartache) gan Cathy Rentzenbrink a Rheoli Straen (Stress Control) gan Jim White.

Erbyn hyn, mae cyfanswm o 20 o deitlau iechyd meddwl ar y rhestr Gymraeg ac, am y tro cyntaf, bydd nifer fawr o’r llyfrau hefyd ar gael fel e-lyfr.

 

The Reading Agency sydd wedi datblygu’r cynllun mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn y Gymraeg diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn hanfodol ac mae hynny’n fwy perthnasol ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, gyda mwy a mwy ohonom yn troi at lyfrau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Beth sy’n wych am y cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yw fod y llyfrau i gyd wedi’u dewis a’u hargymell gan arbenigwyr yn y maes, ac mae’n hollbwysig sicrhau bod y deunydd hynod werthfawr hwn ar gael yn y Gymraeg.”

Dywedodd Debbie Hicks MBE, Cyfarwyddwr Creadigol gyda The Reading Agency: “Bydd un ymhob pedwar ohonom ni yn wynebu problem iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau. Mae cyhoeddi’r teitlau newydd yma’n amserol iawn ac rydym wrth ein bodd bod rhagor o siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad at rym darllen i ddeall a rheoli eu lles a’u hiechyd meddwl. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus i sicrhau bod llyfrau Darllen yn Well ar gael yng Nghymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Un sydd wedi cael budd o’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yw’r awdur llyfrau plant Sharon Marie Jones, sy’n byw gydag iselder ers 2014, â’r cyflwr wedi dwysáu yn dilyn marwolaeth ei mab Ned mewn damwain car yn 2016.

“Mae’r llyfrau wedi bod yn help i mi ddeall yn well y salwch meddwl sydd wedi effeithio arna i,” meddai Sharon. “Mae un yn benodol – Llythyrau Adferiad – ar ffurf llythyrau gan bobl sydd wedi dioddef efo iselder. Dydi o ddim yn ateb ond mae’n un o’r pethau sy’n gallu helpu.”

Mae teitlau’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl ar gael i’w benthyg am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus pan fyddan nhw’n ailagor, neu drwy fynd at wefannau llyfrgelloedd am ganllawiau ar lawrlwytho’r e-lyfrau.

Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd: “Rydym wedi gweld galw mawr am y llyfrau Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl trwy lyfrgelloedd Cymru, ac mae nifer y llyfrau sydd wedi cael eu benthyg hyd yma yn brawf o hynny. Beth sy’n arbennig o braf yw y gall pawb fenthyg y llyfrau hyn yn rhad ac am ddim a heb unrhyw rwystr trwy eu llyfrgell leol. Mae’n hanfodol bod y llyfrau hyn ar gael yn y Gymraeg, gan alluogi ein defnyddwyr i ddarllen am bynciau sydd mor bwysig a phersonol iddyn nhw yn eu mamiaith.”

Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn, neu gellir eu prynu drwy siopau llyfrau, gwales.com a gwefannau eraill.

Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn hefyd yn cynnwys detholiad eang o lyfrau hunangymorth ar gyfer pobl â dementia a’u gofalwyr, ac mae rhestr lawn o’r teitlau i’w chael ar wefan Darllen yn Well.

Cookie Settings