Cylchgronau Digidol
Benthycwch eich hoff gylchgronau o’ch gwasanaeth llyfrgell leol. Gall defnyddwyr sydd â chardiau llyfrgell nawr ddarllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau mae The Economist, National Geographic, Lingo Newydd, CARA a channoedd o gylchgronau poblogaidd eraill o bob cwr o’r byd.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun. Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch fenthyca e-gylchgronau gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell.
Nid oes gan cylchgronau digidol trwy Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau , ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall benthycwyr Llyfrgelloedd Cymru bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.
Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau – iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.
I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol , lawrlwythwch Libby neu ewch i wefan eich awdurdod Llyfrgell.
Ddim yn aelod o lyfrgell? Yna dilynwch y dolenni isod i ymuno â’ch llyfrgell leol ar lein:
- Abertawe
- Aneurin Leisure Trust (Blaenau Gwent)
- Aura Cymru (Sir y Fflint)
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Caerfyrddin
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Llyfrgelloedd Awen (Pen-y-bont ar Ogwr)
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Mon
- Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful