Ymchwil Hanes Teulu drwy Ancestry
![](https://llyfrgelloedd.cymru/wp-content/uploads/2022/10/Ancestry-Instagram-Welsh-png-01-1-scaled.jpg)
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus, swyddfeydd cofnodion archifau a nifer o amgueddfeydd yng Nghymru yn darparu mynediad am ddim i Ancestry Library Edition i’ch helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu.
Ymchwiliwch i hanes pobl gyffredin trwy gyfrwng miliynau o ffynonellau uniongyrchol ac anuniongyrchol – achresi, cyfrifiadau, cofnodion allweddol, cofnodion milwrol a mewnfudo, cofnodion tir, ewyllysiau, papurau newydd, a llawer o gofnodion eraill. Dechreuwch chwilio gan ddefnyddio Ancestry.
Cysylltwch a’r llyfrgell leol drwy ffon, e-bost neu wefan eich awdurdod llyfrgell – ewch i Ffeindio’ch llyfrgell leol