Hanes Teulu

Efallai yr hoffech chi ymweld â’ch gwasanaeth llyfrgell neu archifdy lleol i ymchwilio i hanes eich teulu, i archwilio eich cyndeidiau neu efallai eich bod yn ymchwilio eich coeden deulu. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus a swyddfeydd cofnodion archifau yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu mynediad am ddim i Ancestry Online. Gall yr adnodd hwn eich helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu.
Mae’r mynediad ar-lein fel arfer ar gael o gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a swyddfeydd archifau /archifdai/amgueddfeydd yng Nghymru, ond ar hyn o bryd o ganlyniad i’r pandemic COVID, mae mynediad i Ancestry ar gael o’ch cartref/o bell tan 31 Rhagfyr 2021. O ddechrau Ionawr 2022 ymlaen, bydd mynediad ar gael eto yn unig drwy gyfrifiaduron arbennig mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a swyddfeydd archifau /archifdai/amgueddfeydd yng Nghymru.
Ewch i Ffeindio’ch llyfrgell leol er mwyn cael mynediad i wefan eich awdurdod llyfrgell, ble fydd manylion ar sut i gofrestru efo Ancestry o adref.
Pa adnoddau eraill sydd ar gael i ymchwilio i hanes fy nheulu?
Mae’r gwasanaeth archifau yng Nghymru yn darparu cymorth a chefnogaeth gydag ymchwil hanes teulu. Ewch i wefan Archifau Cymru i ddysgu mwy.