Casgliad y Werin Cymru

Peoples Collection Wales banner

Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan am ddim sy’n dod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae ein Casgliad yn llawn o ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo, a straeon diddorol sy’n cysylltu â hanes, diwylliant a phobl Cymru. Daw’r eitemau hyn nid yn unig gan sefydliadau cenedlaethol ond hefyd gan unigolion, grwpiau cymunedol lleol a llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau bach ledled Cymru.

Gallwch chwilio a phori drwy’r holl gynnwys yn y Casgliad neu cofrestrwch am gyfrif ar wefan Casgliad y Werin Cymru i gyfrannu eich stori ddigidol chi. Drwy wneud hyn byddwch yn helpu i gyfoethogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru a’i chadw i genedlaethau’r dyfodol.

Mae Casgliad y Werin Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant ar-lein a chefnogaeth bwrpasol o bell i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru. Mae’r hyfforddiant yn rhoi canllawiau cam wrth gam ar sut i ddigido cynnwys ac yn egluro pynciau anodd megis hawlfraint. I wybod mwy am gyfleoedd hyfforddi, cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar-lein

Mae Casgliad y Werin yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’r tri sefydliad partner sy’n arwain y project yw Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cookie Settings