Adnoddau Cyfeiriol Cymraeg
Rydym wedi llunio rhestr o’r mannau gorau i gael mynediad at adnoddau cyfeirio am Gymru.
Y Bywgraffiadur Cymreig

Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno Cymry a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Y Bywgraffiadur CymreigGeiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf.
Geiriadur Prifysgol CymruGeiriadur yr Academi

Yn 2007 sicrhaodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg drwydded gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones, golygyddion Geiriadur yr Academi i gyhoeddi fersiwn digidol o’r Geiriadur. Y bwriad wrth gyhoeddi fersiwn digidol yw sicrhau bod yr adnodd hollbwysig hwn ar gael yn hawdd i bobl sy’n siarad, yn darllen ac yn ysgrifennu’r Gymraeg yn feunyddiol ac i ddangos cyfoeth mynegiant yr iaith i’r rheini sy’n ei dysgu.
Geiriadur yr AcademiHwb

Mae Hwb yn cynnal casgliad cenedlaethol o adnoddau digidol i gefnogi addysgu a dysgu i ddysgwyr rhwng 3 a 19 oed yng Nghymru a elwir yn Storfa Ddigidol Genedlaethol.
HwbY Termiadur Addysg

Hon yw’r wefan a noddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu termau safonol yn y byd addysg.
Rhain yw’r termau i’w defnyddio mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ac mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon a disgyblion.
Y Termiadur AddysgWicipedia

Dechreuwyd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003. Erbyn dechrau mis Medi 2014 roedd gan y Wicipedia Cymraeg dros 60,000 o erthyglau ac roedd yn y 63ain mwyaf. Dyma’r unig adnodd rhyngrwyd o’i fath yn y Gymraeg, mae cyfartaledd o 2.7 miliwn o ymweliadau bob mis gan ei wneud yn y wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd; felly mae ganddo le pwysig yn niwylliant yr iaith Gymraeg ar-lein.
Wicipedia