Mynediad i Argraffiad Llyfrgell Ancestry o Bell yn Gorffen

Ym mis Mawrth 2020 bu’n rhaid i lyfrgelloedd ledled y byd gau eu drysau oherwydd y pandemig byd-eang. Gwnaeth ProQuest a Ancestry y penderfyniad digynsail i roi mynediad o bell dros dro i lyfrgelloedd cyhoeddus i Argraffiad Llyfrgell Ancestry i’r rhai a allai ddarparu dull dilysu diogel.

Gwnaeth ProQuest a Ancestry y penderfyniad hwn er mwyn helpu eu cwsmeriaid a’u defnyddwyr i lywio drwy’r amser heriol hwn. Ni wnaethant godi ffi ychwanegol am fynediad o bell ac fe wnaethant hepgor y cynnydd safonol mewn prisiau blynyddol ar gyfer 2021.

Ar ôl bron i 2 flynedd o fynediad dros dro, ac ar ôl i’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd ailagor eu drysau, mae Ancestry wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi terfyn ar fynediad o bell i Argraffiad Llyfrgell Ancestry ar ddiwedd 2021. Mae Ancestry yn teimlo gofal mawr tuag at lyfrgelloedd a’u defnyddwyr, ond mae ganddynt gytundebau â chyhoeddwyr ac ystyriaethau busnes eraill sy’n eu hatal rhag cynnig mynediad o bell yn barhaol.

Gall defnyddwyr o ddechrau Ionawr 2022 gael mynediad i Ancestry Library Edition drwy gyfrifiaduron a ddarperir gan eich llyfrgell neu archif / swyddfa gofnodion neu drwy ddefnyddio eu gliniadur personol, tabled neu ffôn symudol eu hunain yn y llyfrgell.

Cysylltwch â’ch llyfrgell os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am fynediad lleol ar y safle. Gallwch ddefnyddio Ffeindio’ch Llyfrgell Leol ar wefan Llyfrgelloedd Cymru i gael y manylion cyswllt.

 

Poster advertising Ancestry

 

Cookie Settings