MYNEDIAD ICH LLYFRGELL LLE BYNNAG RYDYCH CHI
Tachwedd 25, 2015Yr wythnos hon mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn tynnu sylw at eu gwasanaethau digidol anhygoel.
O lawrlwytho am ddim, wifi am ddim ac adnoddau hanes teulu am ddim i amrywiaeth eang o sesiynau galw heibio ich helpu i fynd ar y we, defnyddio iPad neu ddysgu sgiliau newydd, fe all llyfrgelloedd eich helpu i fanteisio ar gyfoeth o wasanaethau digidol ac arbed llawer o arian i chi.
Ledled Cymru, bydd llyfrgelloedd yn cynnal 1000 o sesiynau digidol ar gyfartaledd bob mis gyda thua 10,000 o bobl o bob oed yn cymryd rhan ymysg y sesiynau fydd clybiau gwaith, sesiynau iPad galw heibio, chwilio am hanes lleol a hanes teulu, sgiliau cyfryngau cymdeithasol, diogelwch ar y we a chlybiau codio. Gydar Nadolig ar y trothwy, bydd rhai llyfrgelloedd yn cynnal cyrsiau siopa ar lein er mwyn dangos i chi sut i gael y bargeinion gorau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: Rwyf wedi cyffroin lân yngl?n ag ymgyrch #CaruDigidol syn cael ei chynnal oddi mewn, ac oddi allan, i lyfrgelloedd ledled Cymru. Mae llyfrgelloedd yn rhoi mynediad at ddiwylliant, gwybodaeth a dysg ar sawl ffurf. Boed chin arbenigo ar y maes digidol neu heb ddechrau arbrofi yn y byd digidol, fe all llyfrgelloedd gynnig rhywbeth i chi, a staff syn barod i helpu.
Rwyn falch fod cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cynorthwyo llyfrgelloedd i ehangur dewis o wasanaethau sydd ar gael fel bod pawb yn gallu mwynhaur rhain ac arbed arian trwy wneud hynny. Byddwn yn annog pawb i roi cynnig ar wasanaeth digidol newydd yn eu llyfrgell agosaf yr wythnos hon rwyn credu y cewch eich siomi ar yr ochr orau gydar hyn sydd ar gael.
Ar gyfer darllenwyr brwd mae dros 25,000 o e-lyfrau a thros 4000 o e-lyfrau llafar gyda theitlau syn addas i blant, yr arddegau ac oedolion syn wych pan ydych yn teithio o gwmpas.
Ydych chin gwario mwy nag y dylech chi ar gylchgronau? Beth am bori ymysg ein casgliad o dros 200 or prif gylchgronau gan gynnwys teitlaur BBC, y prif gyhoeddiadau ym maes iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs beth bynnag syn mynd âch bryd, rydych yn fwy tebygol o ddod o hyd i rywbeth syn berthnasol i chi ac maer cyfan ar gael iw lawrlwytho am ddim.
Boed chin ddarllenwr brwd neun ddeinosor yn y maes digidol, fe all eich llyfrgell gynnig amrywiaeth o wasanaethau newydd ar lein, a llawer ohonynt ar gael 24/7 gallwch hyd yn oed ymuno ar lein ac i bawb syn ymuno y mis yma bydd cyfle i ennill e-ddarllenydd.
Cewch wybod mwy yn welshlibraries.org/lovedigital