MYNEDIAD I’CH LLYFRGELL LLE BYNNAG RYDYCH CHI

Yr wythnos hon mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn tynnu sylw at eu gwasanaethau digidol anhygoel.

O lawrlwytho am ddim, wifi am ddim ac adnoddau hanes teulu am ddim i amrywiaeth eang o sesiynau galw heibio i’ch helpu i fynd ar y we, defnyddio iPad neu ddysgu sgiliau newydd, fe all llyfrgelloedd eich helpu i fanteisio ar gyfoeth o wasanaethau digidol ac arbed llawer o arian i chi.

Ledled Cymru, bydd llyfrgelloedd yn cynnal 1000 o sesiynau digidol ar gyfartaledd bob mis gyda thua 10,000 o bobl o bob oed yn cymryd rhan – ymysg y sesiynau fydd clybiau gwaith, sesiynau iPad galw heibio, chwilio am hanes lleol a hanes teulu, sgiliau cyfryngau cymdeithasol, diogelwch ar y we a chlybiau codio. Gyda’r Nadolig ar y trothwy, bydd rhai llyfrgelloedd yn cynnal cyrsiau siopa ar lein er mwyn dangos i chi sut i gael y bargeinion gorau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rwyf wedi cyffroi’n lân yngl?n ag ymgyrch #CaruDigidol sy’n cael ei chynnal oddi mewn, ac oddi allan, i lyfrgelloedd ledled Cymru. Mae llyfrgelloedd yn rhoi mynediad at ddiwylliant, gwybodaeth a dysg ar sawl ffurf. Boed chi’n arbenigo ar y maes digidol neu heb ddechrau arbrofi yn y byd digidol, fe all llyfrgelloedd gynnig rhywbeth i chi, a staff sy’n barod i helpu.

“Rwy’n falch fod cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cynorthwyo llyfrgelloedd i ehangu’r dewis o wasanaethau sydd ar gael fel bod pawb yn gallu mwynhau’r rhain ac arbed arian trwy wneud hynny. Byddwn yn annog pawb i roi cynnig ar wasanaeth digidol newydd yn eu llyfrgell agosaf yr wythnos hon – rwy’n credu y cewch eich siomi ar yr ochr orau gyda’r hyn sydd ar gael.”

Ar gyfer darllenwyr brwd mae dros 25,000 o e-lyfrau a thros 4000 o e-lyfrau llafar gyda theitlau sy’n addas i blant, yr arddegau ac oedolion – sy’n wych pan ydych yn teithio o gwmpas.

Ydych chi’n gwario mwy nag y dylech chi ar gylchgronau? Beth am bori ymysg ein casgliad o dros 200 o’r prif gylchgronau gan gynnwys teitlau’r BBC, y prif gyhoeddiadau ym maes iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs – beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, rydych yn fwy tebygol o ddod o hyd i rywbeth sy’n berthnasol i chi ac mae’r cyfan ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Boed chi’n ddarllenwr brwd neu’n ddeinosor yn y maes digidol, fe all eich llyfrgell gynnig amrywiaeth o wasanaethau newydd ar lein, a llawer ohonynt ar gael 24/7 – gallwch hyd yn oed ymuno ar lein ac i bawb sy’n ymuno y mis yma bydd cyfle i ennill e-ddarllenydd.

Cewch wybod mwy yn welshlibraries.org/lovedigital

Cookie Settings