Mynediad i’r Llyfrgell Unrhyw Amser, Unrhyw Le

Darganfyddwch holl adnoddau digidol eich llyfrgell – yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Llafar, eGyfnodolion ac eGomics, a llu o Gasgliadau Digidol.

Mae casgliad ffantastig o adnoddau ar lein ar gael drwy eich llyfrgell – dros 250 o brif deitlau eGylchgronau, 25,000 o eLyfrau ac eLyfrau Llafar, eGomics – y cyfan am ddim, yn syml iawn trwy ymuno â’r llyfrgell!

Mae mynediad ar gael at ddetholiad o adnoddau cyfeiriol digidol am Gymru drwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac       

Mae gan wasanaeth eGylchgronau RBdigital cannoedd o’r teitlau mwyaf poblogaidd, sydd ar gael i chi eu lawrlwytho ar eich cyfrifiadur neu ar ran fwyaf o ddyfeisiau symudol. Dewiswch deitlau sy’n cynnwys iechyd, ffitrwydd, chwaraeon, crefftau, gerddi, cerddoriaeth, cyfrifiaduron a llawer mwy. Gallwch greu cyfrif RBdigital a lawrlwytho e-gylchgronnau am ddim

Os ydych yn mwynhau darllen llyfrau comic a nofelau graffig, mae gan wasanaeth RBdigital Comics deitlau i bob ystod oedran mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys Spider Man gan Marvel, Avengers, X-Men a llyfrau comic nodedig eraill fel TransformersG.I. JoeStar Trek a Ghostbusters. Dewiswch i fenthyca rhifyn unigol neu cyfrol gyfan a medrwch lawrlwytho gymaint o deitlau ac y dymunwch gan ddefnyddio’r ap RBdigital, neu drwy eich cyfrifiadur. Dechreuwch drwy ddarllen ein canllawiau defnyddiol

Ceir mynediad hefyd i adnoddau digidol fel Theory Test Pro heb droedio allan o’ch cartref!

Cookie Settings