Oes gennych chi stori grêt am rygbi yr hoffech ei rhannu?

Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd sydd ar y ffordd.

Wrth lansio’r gystadleuaeth heddiw (dydd Llun 27 Ebrill) yn Stadiwm y Mileniwm, ochr yn ochr â phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis a’r cadeirydd Gareth Davies, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae’n gyffrous lansio’r gystadleuaeth ffantastig hon sy’n dwyn ynghyd holl elfennau fy mhortffolio – sef diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth! Trwy annog pobl ifanc i gofnodi eu profiadau rygbi yng Nghymru, boed nhw’n chwarae, yn gwylio neu’n clywed eu ffrindiau a’u teuluoedd yn siarad amdano – rydym yn anelu at greu casgliad o storïau sy’n ffenestr siop i rygbi yng Nghymru o lawr gwlad hyd at berfformiadau’r tîm cenedlaethol.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol a llythrennedd mewn ffordd atyniadol a hwyliog. Mae adrodd storïau yn ffordd wych i bobl ifanc adael i’w dychymyg dyfu a dysgu mwy amdanynt eu hunain a’r byd o’u cwmpas, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies:

“Rwy’n dishgwl ymlaen yn fawr at ddarllen y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous hon. Fe wyddom fod rygbi yn chwarae rhan arbennig yn y seice cenedlaethol yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn manteisio ar boblogrwydd y gêm ymhlith plant ysgol a’n cynorthwyo i ymestyn mas at y rhai hynny sydd eto i ymddiddori yn y gêm.”

Mae tri chategori yn y gystadleuaeth a’r thema gyffredinol yw rygbi yng Nghymru:

  • Barddoniaeth ar gyfer 7-9 mlwydd oed

Rhaid i’r cerddi beidio â bod dros 250 gair

  • Stori Fer ar gyfer 10-12 mlwydd oed

Rhaid i’r storïau byrion beidio â bod dros 500 gair

  • Adrodd storïau digidol ar gyfer 13-16 mlwydd oed

Rhaid i’r ffilmiau beidio â bod dros 3 munud a gallant gynnwys ffotograffau, fideo, animeiddiad, sain, cerddoriaeth, testun, a llais naratif.

 

Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel arbennig o feirniaid sy’n cynnwys enwogion rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr ar y cyfryngau ac fe gyhoeddir enwau’r rhai fydd yn y rownd derfynol ddechrau Medi.

 

Bydd storïau’r rhai sydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd, Cofroddion a’r Bêl Hirgron yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r 8fed Medi a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa ar 16 Medi 2015 i gasglu eu gwobrau.

Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol yn Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:

“Mae hyn yn ffordd wych i bobl ifanc rannu eu hangerdd dros y gêm. Mae rygbi a llenyddiaeth yn rhannau pwysig o draddodiad a diwylliant Cymru.

“Rydym wrth ein boddau yn cynnal yr arddangosfa hon a fydd yn cyfuno’r ddau beth o flaen cystadleuaeth mor fawreddog.”

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad o arteffactau rhyfeddol, memorabilia ac eitemau o bwys hanesyddol sy’n gysylltiedig â Chwpan Rygbi’r Byd o archifau Undeb Rygbi Cymru, yn eu plith dant morfil wedi’i gerfio â llaw o Tonga a pholyn totem unigryw o Ganada.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal wyth o gemau yng Nghwpan Rygbi’r Byd – gan gynnwys dwy o gemau Cymru – yn Stadiwm y Mileniwm a bydd yr arddangosfa yn agor bedwar diwrnod yn unig cyn y gêm gyntaf yng Nghaerdydd (Cymru yn erbyn Wrwgwái ar 20 Medi).

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis:

“Mae’r arddangosfa hon yn addo rhoi cipolwg hynod ar gyfraniad Cymru at Gwpanau’r Byd dros y blynyddoedd, ond hefyd hanes unigryw y twrnamaint yn gyffredinol.”

Fe fydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn trefnu gweithgareddau i gynorthwyo pobl ifanc i feddwl am syniadau ar gyfer eu storïau neu gerddi, i ddatblygu sgiliau i’w cynorthwyo i greu storïau digidol ac arddangos eu casgliadau treftadaeth rygbi a chwaraeon. Roedd plant Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Adamsdown yn bresennol yn y lansiad heddiw cyn mynd ymlaen i Amgueddfa Stori Caerdydd ble byddant yn edrych ar hanes rygbi yn y ddinas a Chwpan Rygbi’r Byd.

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 20 Gorffennaf 2015 ac i gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys y telerau ac amodau llawn, ewch i: www.rugbystories.wales ac ymunwch â’r sgwrs ar #storïaurygbi

Cookie Settings