Peidiwch â diflasu yn ystod gwyliau’r hanner tymor!

Peidiwch a diflasu yn ystod gwyliau’r hanner tymor! Ydych chi’n chwilio am rywbeth i gadw’r plant yn ddiddan dros y gwyliau? Yn gwrthod gwario ffortiwn yn mynd a nhw allan ar drip? Beth am fynd i’ch llyfrgell leol – mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnal gweithgareddau crefft a darllen arbennig. A chofiwch, mae’r llyfrgelloedd i gyd yn cynnig amrywiaeth wych o lyfrau, cylchgronau, DVDs a mwy i’r teulu cyfan, oll yn rhad ac am ddim a dydy hi ddim yn costio ceiniog i ymuno a’r chwaith! Cliciwch yma i weld lle mae eich llyfrgell leol.

Cookie Settings