Pennod newydd gyffrous i Lyfrgell Cwmbrân
Ebrill 3, 2025
Cafodd grŵp o aelodau ifanc y llyfrgell gipolwg ar Lyfrgell Cwmbrân sydd newydd ei hadnewyddu, cyn iddi ailagor i’r cyhoedd ddydd Llun, 31ain o Fawrth.
Mae bron i hanner miliwn o bunnoedd wedi’u buddsoddi yn y llyfrgell, gyda £300,000 yn dod o Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru a £127,000 yn ychwanegol gan Gyngor Torfaen.
Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn wedi arwain at weddnewidiad modern, sy’n cynnwys cynllun mwy disglair, gwell a threfniant gwell o’r stoc llyfrau.
Mae ail-gyflunio’r gofod presennol wedi cynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithio ystwyth ac astudio, gydag ychwanegu llyfrgell newydd i bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae lolfa llyfrgell newydd wedi’i chynnwys, gyda seddi anffurfiol a phlanhigion, ynghyd â gwasanaeth benthyca tabledi Hublet i alluogi defnyddio e-adnoddau, cylchgronau a chyfleusterau llungopïo am ddim y llyfrgell.
Mae hefyd yn ymfalchïo mewn mwy o ofod astudio a desgiau, gwell cyfleusterau i gwsmeriaid ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain ar y safle, ac ardal iechyd a lles gwell.
Dywedodd Millie Day, 14 oed: “Mae’r cwb cyfforddus yn lle da i astudio a darllen llyfrau. Rydyn ni’n hoffi sut mae’r ardal hon wedi’i hamgáu ac i ffwrdd o weddill y llyfrgell.”
Dywedodd Dominika Wiaduch, 17 oed: “Mae amrywiaeth fawr o adnoddau a mannau cymunedol ar gael i fyfyrwyr sydd eisiau defnyddio’r cyfrifiaduron a’r amrywiaeth eang o gyfleusterau.”
Mae Llyfrgell Cwmbrân ar agor bob dydd Llun a dydd Mawrth rhwng 9am a 5:30pm, dydd Iau 8:45am – 7pm a dydd Gwener, 8:45am i 6pm. Mae hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn rhwng 8.45am-1pm.
Dywedodd Rheolwr Llyfrgelloedd Torfaen, Stephanie Morgan, “Mae sawl diben gan lyfrgelloedd, boed yn ganolfannau ar gyfer dysgu gydol oes, ymgysylltu â’r cyhoedd, neu ar gyfer twf personol. Mae’r gwelliannau newydd hyn yn moderneiddio’r gofod tra’n cadw ei natur groesawgar a hygyrch.”
“Mae’r dodrefn newydd a’r cyfleusterau digidol yn sicr yn gwella profiad y cwsmer, ac rydym yn gobeithio denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr o ganlyniad.”
Mae gwelliannau eraill yn cynnwys silffoedd symudol i wella gofod llawr y llyfrgell ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar raddfa fwy, ac ardal gyngor a gwybodaeth newydd i sefydliadau partner ar y safle, gan wella rôl y llyfrgell fel canolfan gymunedol ymhellach.
Mae’r buddsoddiad yn dilyn cyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru yn Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon, gyda £300,000 wedi’i ddyrannu i Lyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a £100,000 wedi’i roi pan symudwyd Llyfrgell Blaenafon i’r Ganolfan Treftadaeth y Byd yn 2015.
Mae adnewyddu Llyfrgell Cwmbrân yn rhan o gynlluniau ehangach i wella Tŷ Gwent dros y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau bod y gymuned yn parhau i elwa o fannau modern, hygyrch a chroesawgar.