Plant yng Nghymru i Fwynhau Manteision Rhigymau Dwyieithog wrth i Amser Rhigwm Mawr Cymru Ddychwelyd
Chwefror 10, 2025
Plant yng Nghymru i fwynhau manteision rhigymau, caneuon a straeon dwyieithog wrth i ddigwyddiad blynyddol Amser Rhigwm Mawr Cymru BookTrust Cymru ddychwelyd
Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, dathliad wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda miloedd o blant yn eu blynyddoedd cynnar.
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd teuluoedd o bob cwr o Gymru i brofi sut y gellir ymgorffori rhigymu a rhannu straeon yn ddwyieithog i mewn i fywyd beunyddiol – boed hynny gartref, mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, neu yn eu cymuned leol. Mae dros 500 o leoliadau ledled Cymru wedi cofrestru i gymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, sy’n digwydd o ddydd Llun 10 Chwefror – Gwener 14 Chwefror 2025. Ymysg y lleoliadau sy’n cymryd rhan mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd, canolfannau plant a theuluoedd, llyfrgelloedd, gofalwyr plant, grwpiau cymunedol ac elusennau.
Drwy annog plant i fwynhau rhigymau yn ystod eu blynyddoedd cynnar, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n codi ymwybyddiaeth o effeithiau cadarnhaol rhannu rhigymau dwyieithog ar lafar gyda phlant. Mae adrodd rhigymau’n gosod sylfeini ar gyfer datblygu iaith a llafaredd plant, yn ogystal â’u perthynas â darllen ar gyfer y dyfodol. Gall hefyd fod yn weithgaredd ymrwymo hwyliog, fforddiadwy ar gyfer teuluoedd, sydd yn ei dro yn helpu i gefnogi datblygiad emosiynol plant, a’u hunan-hyder.
Er mwyn cefnogi ymgyrch eleni, mae’r Bardd a’r Ddawnswraig Krystal S. Lowe wedi cyfansoddi a pherfformio symudiadau ar gyfer cerdd ddwyieithog newydd hyfryd. Mae “Tyrd Gyda Fi! / Come With Me!” yn ddathliad o iaith, symud a natur, a gellir ei gael ynghyd ag adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gerdd ar wefan BookTrust Cymru. Ymysg cyfranwyr eraill eleni mae’r Awdur a’r Athrawes Lesley James sy’n gwahodd plant i gyd-ganu gyda’r adar a dysgu i adnabod eu cân yn Gymraeg a Saesneg gyda’i chân sy’n odli, “Canu yn y Cae / Singing in the Field”, a’r Bardd ac Awdur Tracey Hammett gyda “Y Goeden Barau / The Pair Tree”, cerdd ddwli hwyliog, ddwyieithog am sanau unigol, ac o ble y gallen nhw ddod.
Gall teuluoedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar gymryd rhan yn eu hwyl rhigymu eu hunain gartref gan ddefnyddio’r fideos a’r adnoddau y gellir eu lawrlwytho, a fydd ar gael ar Booktrust Cymru ac fe’u hanogir i rannu’u profiadau rhigymu’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl Phil Savery, Rheolwr Partneriaeth BookTrust Cymru:
“Mae rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon yn y blynyddoedd cynnar yn ffordd wych o ddatblygu llafaredd, iaith a sgiliau cyfathrebu plant, cynyddu’u hyder a’u hannog i ddarllen a mwynhau straeon. Diolch i Lywodraeth Cymru a’n rhwydwaith o bartneriaid blynyddoedd cynnar anhygoel, bydd miloedd o blant ledled Cymru’n profi manteision rhannu rhigymau, barddoniaeth a chaneuon dwyieithog ar lafar yr wythnos hon. Mae amser o hyd i deuluoedd ddod yn rhan o’r hwyl, boed hynny drwy ddarllen cerdd neu lyfr sy’n odli gyda’i gilydd gartref, dyfeisio cân neu rigwm digri wrth ddisgwyl am y bws neu yn yr archfarchnad, neu edrych ar y cynnwys newydd am rigymau ac odli ar ein gwefan. Ar y cyfryngau cymdeithasol gallwch rannu eich dathliadau Amser Rhigwm Mawr Cymru drwy ddefnyddio’r hashnod #BwrlwmYRhigwmIBawb a bydd sianelau @BookTrustCymru ar X (Twitter gynt) a Facebook yn rhannu rhigymau newydd sbon (a hen ffefrynnau), cystadlaethau cyffrous a mwy yn ystod yr wythnos.”
Meddai Krystal S. Lowe, Bardd a Dawnsiwr:
“Ar ôl treulio blynyddoedd o wylio Amser Rhigwm Mawr Cymru, mae hi’n hynod gyffrous gallu cyfrannu fy ngwaith fy hunan i’r fenter ragorol hon. Drwy gyfrwng fy odlau a rhigymau, dwi wir yn gobeithio y gall plant deimlo cyffro geiriau a sut maen nhw’n cysylltu â’n cyrff a’r byd o’n cwmpas!”
I ddysgu mwy, ewch i wefan BookTrust Cymru neu dilynwch ar X a Facebook @BookTrustCymru