‘Porwch Mewn Llyfr’ a Mwynhau’r Buddion Lles y Gaeaf Hwn

 

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn eich annog i ‘Bori mewn Llyfr’ a mwynhau’r buddion lles y gaeaf hwn  

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn cydweithio â’r elusen genedlaethol yr Asiantaeth Ddarllen i hyrwyddo’r cysylltiad rhwng darllen yn rheolaidd a gwell canlyniadau iechyd y gaeaf hwn. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ‘Porwch mewn Llyfr’ sy’n ceisio hyrwyddo darllen ychydig bach bob wythnos i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl. 

Mae ymchwil yn dangos bod oedolion sy’n darllen am 30 munud yr wythnos yn unig yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt fwy o foddhad â bywyd, mwy o hunan-barch a’u bod yn gallu ymdopi â sefyllfaoedd anodd yn well1, a bod defnyddwyr llyfrgelloedd yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn well na phobl nad ydynt yn eu defnyddio.2 

Yn rhan o’r ymgyrch, sy’n cael ei chydlynu gan yr Asiantaeth Ddarllen, bydd llyfrgelloedd ledled y wlad yn derbyn pecyn sy’n cynnwys syniadau i lyfrgelloedd annog eu cymunedau i bori mewn llyfr gyda gweithgareddau gan gynnwys cyfnewid llyfrau, grwpiau darllen ac ymweliadau gan awduron.  

Bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn cynnal ystod eang o weithgareddau fel rhan o’r ymgyrch Porwch mewn Llyfr, felly cymerwch olwg ar dudalennau gwe eich awdurdod llyfrgell i weld pa ddigwyddiadau sydd ymlaen.

Dywedodd Karen Napier MBE, Prif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae’r cysylltiad rhwng darllen yn rheolaidd a gwell lles yn dra chyfarwydd, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru i ledaenu’r neges hon i’r cyhoedd a dathlu darllen y gaeaf hwn. Rydym yn gwybod bod y gwaith a wnawn i ysbrydoli pobl i ddarllen ledled y Deyrnas Unedig yn bosibl trwy ymrwymiad ein llyfrgelloedd partner, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw ar yr ymgyrch Porwch mewn Llyfr.” 

I gael gwybod mwy, ymwelwch â’ch llyfrgell leol neu ewch i www.readingagency.org.uk a chliciwch ar Porwch mewn Darllen. 

 

 

Cookie Settings