Pressreader yn Dod yn Fuan!

 

Mi fydd gwasanaeth eGylchgronau ac eBapurau cwmni Overdrive, Pressreader, yn cyrraedd Llyfrgelloedd Cymru ym mis Tachwedd! Mi fydd y gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr llyfrgell dros Gymru gyfan am y tro cyntaf.

Beth yw Pressreader?

PressReader yw eich stondin newyddion digidol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau – fydd ar gael yn fuan drwy eich llyfrgell! Ar ap PressReader neu pressreader.com, gallwch gael mynediad i fwy na 7,000 o gyhoeddiadau gorau’r byd cyn gynted ag y byddant ar gael ar silffoedd.

Gallwch weld rhifynnau yn eu gosodiad print gwreiddiol, eu darllen ar unwaith neu lawrlwytho ar gyfer darllen eto ar eich dyfeisiau. Gyda chyhoeddiadau mewn mwy na 60 o ieithoedd ac o 120 o wledydd, gallwch gael mynediad i’r cynnwys o adref, ac o bob cwr o’r byd. O’r Daily Post, Evening Post, The Guardian, Forbes, Vogue a Western Mail, mae PressReader yn cyflenwi rhifynnau llawn o bapurau newydd a chylchgronau premiwm ar unwaith.

Sut i Gofrestri

Defnyddiwch eich rhif aelodaeth llyfrgell i ymuno â Pressreader o’r 1af o Dachwedd ymlaen. Os nad oes ganddoch aelodaeth llyfrgell, ewch i’ch llyfrgell leol i ymuno neu ymweld â’r tudalen Ymaelodi â’r Llyfrgell ar wefan Llyfrgelloedd Cymru i gael y manylion.

Cookie Settings