Pythefnos Hi VIS 2020 yn Dathlu’r Gair ar bob Ffurf a Fformat

Ma’ pythefnos Hi Vis (‘Make A Noise In Libraries’ gynt) yn rhedeg o’r 1af-14eg o Fehefin! Ei nod fydd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau Llyfrgell sydd ar gael i bobl â nam ar eu golwg. Mae’n cael ei gefnogi gan RNIB a Reading Sight CILIP.

Mae darparu fformatau amgen a sicrhau eu bod ar gael yn hanfodol i bobl sydd â nam ar eu golwg. Thema gyffredinol y pythefnos yma eleni felly yw dathlu’r gair ar bob ffurf a fformat.

Yn draddodiadol, mae defnyddwyr dall a rhai â nam ar eu golwg yn darllen Braille, llyfrau sain a llyfrau print bras a gynhyrchwyd ac a ddarparwyd gan lyfrgelloedd arbenigol ar gyfer y Deillion.

Mae technolegau newydd wedi agor meysydd darllen, cyfranogiadau a gweithgareddau newydd i bobl ag anableddau a oedd yn anhygyrch ychydig flynyddoedd yn ôl. Bellach, mae gan ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg fynediad i raglenni cyfrifiadurol, adnoddau rhyngrwyd a digidol gan ddefnyddio arddangosiadau Braille, monitorau chwyddwydr sgrin, chwyddo sgrin, meddalwedd sganio gydag OCR, darllenwyr sgrin a synthesis llais. Mae llawer o’r nodweddion hyn bellach ar gael mewn llyfrgelloedd academaidd a chyhoeddus, yn enwedig drwy wasanaethau adnoddau digidol.

Mae gan ap BorrowBox, er enghraifft, lawer o nodweddion hygyrchedd a chynhwysedd, er mwyn annog y pleser o wrando a darllen i bawb, fel yr opsiwn cyflymder chwarae i fwynhau eLyfrau Sain ar y cyflymder o ddewis eich hun, a swyddogaeth VoiceOver Apple sy’n galluogi eLyfr gael ei ‘ddarllen’ yn uchel dim ond drwy daro’r sgrin.

Mae gwasanaethau llyfrgell RBdigital hefyd yn cefnogi meddalwedd/darllenwyr hygyrchedd ar gyfer mynediad symudol a gwe-benbwrdd, gan gynnwys y darllenwyr sgrin trosleisio TalkBack, JAWS a NVDA, i gynorthwyo defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae RBdigital hefyd yn cynnwys bar offer unigryw gydag ystod lawn o nodweddion hygyrchedd adeiledig, gyda desg gymorth unigryw gydag arbenigwyr i gynorthwyo pobl ag anableddau. Gall defnyddwyr glicio ar yr eicon ‘Explore your accessibility options’ sydd ar gael ar hafan tudalennau gwe RBdigital.

Dewch i gymryd rhan a lledaenwch y gair! Rhannwch drwy ddefnyddio’r hashnod #HiVIS2020 

Cookie Settings