Sêr Rygbi Cymru yn lansio sialens #hunlyfr Diwrnod y Llyfr
Mawrth 5, 2015Yng nghanol bwrlwm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, mae sêr Rygbi Cymru wedi dangos eu cefnogaeth frwd i ymgyrch Diwrnod y Llyfr 2015.
Ymwelodd tîm Diwrnod y Llyfr â gwesty Bro Morgannwg yn ddiweddar i gwrdd â rhai aelodau o garfan Cymru syn awyddus i helpu i lansio ymgyrch #hunlyfr Diwrnod y Llyfr.
Wyddoch chi beth yw #hunlyfr?
Mae nifer ohonom bellach yn gyfarwydd â chreu hunlun ar Twitter neu Facebook, eglurodd Angharad Wyn Tomos, Swyddog Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru, ond gyda chymorth Undeb Rygbi Cymru eleni rydym am lansio sialens #hunlyfr.
Ein bwriad yn syml yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni ac oedolion yng Nghymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen, ac i lwythor llun ar ffrwd Twitter @DYLLcymWBDwales. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos ir byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, au bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math.
Beth iw wneud:
- Darllenwch lyfr
- Tynnwch lun ohonoch eich hun yn darllen
- Anfonwch y llun atom ni: #hunlyfr @DYLLcymWBDwales
George North, Scott Williams ar hyfforddwr Robin McBryde fydd yn lansio sialens #hunlyfr eleni, a bydd ffilmiau byr ohonyn nhwn ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol ymgyrch Diwrnod y Llyfr.
Dyma ymgais George, Robin a Scott. A fydd eich ymgais chi gystal?
Bydd hoff ymgais Tîm Diwrnod y Llyfr yn ennill crys rygbi Cymru (maint plentyn).
Ewch amdani, Gymru! #hunlyfr