Sêr Rygbi Cymru yn lansio sialens #hunlyfr Diwrnod y Llyfr

Yng nghanol bwrlwm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, mae sêr Rygbi Cymru wedi dangos eu cefnogaeth frwd i ymgyrch Diwrnod y Llyfr 2015.

Ymwelodd tîm Diwrnod y Llyfr â gwesty Bro Morgannwg yn ddiweddar i gwrdd â rhai aelodau o garfan Cymru sy’n awyddus i helpu i lansio ymgyrch #hunlyfr Diwrnod y Llyfr.

Wyddoch chi beth yw #hunlyfr?

‘Mae nifer ohonom bellach yn gyfarwydd â chreu hunlun ar Twitter neu Facebook,’ eglurodd Angharad Wyn Tomos, Swyddog Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru, ‘ond gyda chymorth Undeb Rygbi Cymru eleni rydym am lansio sialens #hunlyfr.

‘Ein bwriad yn syml yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni ac oedolion yng Nghymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen, ac i lwytho’r llun ar ffrwd Twitter @DYLLcymWBDwales. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math.’

Beth i’w wneud:

  1. Darllenwch lyfr
  2. Tynnwch lun ohonoch eich hun yn darllen
  3. Anfonwch y llun atom ni: #hunlyfr @DYLLcymWBDwales

George North, Scott Williams a’r hyfforddwr Robin McBryde fydd yn lansio sialens #hunlyfr eleni, a bydd ffilmiau byr ohonyn nhw’n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol ymgyrch Diwrnod y Llyfr.

Dyma ymgais George, Robin a Scott. A fydd eich ymgais chi gystal?

Bydd hoff ymgais Tîm Diwrnod y Llyfr yn ennill crys rygbi Cymru (maint plentyn).

Ewch amdani, Gymru! #hunlyfr

http://youtu.be/zyCox95AulE

Cookie Settings