Sialens Ddarllen yr Haf

Leoedd gwych yw llyfrgelloedd i blant ddarganfod pleser darllen, a pha adeg well i wneud hynny nag yn ystod y gwyliau haf hir.
Digwyddiad blynyddol wedi ei anelu at blant 4-11 oed yw Sialens Ddarllen yr Haf. Anogir plant i ddarllen chwe llyfr llyfrgell o’u dewis yn ystod gwyliau’r haf ac i dderbyn gwobrau bach yn anogaeth y gellir eu casglu wrth fynd ymlaen.
Trefnir Sialens Ddarllen yr Haf gan y Reading Agency, ac fe’i cymeradwyir yng Nghymru gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, gan gyrraedd plant a phobl ifainc o bob oedran a gyda dros 40,000 o blant yn cymryd rhan llynedd yng Nghymru.
Mae cymryd rhan yn y Sialens yn rhad ac am ddim! Er mwyn gwneud does ond angen i blant gofrestru yn eu llyfrgell agosaf sy’n rhan o’r fenter.
Sgwad Gwirion, Sialens Ddarllen yr Haf 2020
Bob blwyddyn mae gan y Sialens deitl a thema newydd. Bydd Sgwad Gwirion, Sialens Ddarllen yr Haf 2020 yn ddathliad o lyfrau doniol, hapusrwydd a chwerthin,
Bydd plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn ymuno â thîm o anifeiliaid sydd wrth eu bodd ag antur ac sydd yn byw mewn tŷ lliwgar llawn sbort! Mae’r Sgwad Gwirion wrth eu bodd yn chwerthin ac yn mynd i’r afael â llyfrau doniol – ond gofalwch: mae dihiryn rhyfedd yn gobeithio difetha eu hwyl!
Bydd Sialens 2020 yn cynnwys gwaith celf at y pwrpas gan awdur a dylunydd llyfrau plant arobryn Laura Ellen Anderson (Amelia Fang; Evil Emperor Penguin; I Don’t Want Curly Hair)
Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, digwyddiadau ar-lein a dolenni at adnoddau digidol presennol. Mae’r Sialens yn cynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg.
Am fwy o wybodaeth am y Sialens a sut i gymryd rhan, ewch i’r wefan
Dyddiadau lansio
Bydd lansiad y Sialens Ddarlen yr Haf yng Nghymru ar 17eg o Orffennaf 2020. Nid yw’r Reading Agency yn gosod dyddiad cau swyddogol ar gyfer y Sialens.
Mae tipyn o amrywiaeth leol, felly da chi sieciwch gyda’ch gwasanaeth llyfrgell lleol er mwyn cael dyddiadau dechrau a gorffen y Sialens yn eich ardal chi.
Sut mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gweithio?
- Mae Sialens Ddarllen yr Haf ar agor i bob plentyn oedran ysgol gynradd ac wedi ei gynllunio ar gyfer pob gallu darllen. Gall plant gofrestru am ddim mewn unrhyw lyfrgell sy’n cymryd rhan yn ystod yr haf.
- Bydd plant yn darllen o leiaf chwe llyfr llyfrgell fel rhan o’r Sialens.
- Gall plant ddarllen beth bynnag a ddymunant – mae ffuglen, ffaith, barddoniaeth, llyfrau hiwmor, llyfrau lluniau, nofelau graffigol, llyfrau sain ac e-lyfrau i gyd yn cyfri tuag at y Sialens, cyn belled bod y llyfrau wedi eu benthyg o’r llyfrgell.
- Mae plant yn derbyn gwobrau arbennig bob tro y byddant yn gorffen llyfr, ac mae tystysgrif i bawb sy’n cwblhau’r Sialens.
Drwy gydol y Sialens bydd staff llyfrgell a gwirfoddolwyr yn eu harddegau ac yn oedolion yn cefnogi’r plant, gan eu helpu i anturio drwy ystod eang o fathau gwahanol o lyfrau, gan fwynhau ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau creadigol.
Space Chase
Ysbrydolwyd Ras Ofod, Sialens Ddarllen yr Haf 2019, gan ben blwydd hanner can mlynedd glanio ar y lleuad ac roedd yn cynnwys gwaith celf at y pwrpas o brid awdur a dylunydd llyfrau plant, Adam Stower. Bu dros 722,731 o blant yn cymryd rhan ar draws y Deyrnas Gyfunol ac mewn 21 o wledydd tramor drwy bartneriaeth y Reading Agency gyda’r Cyngor Prydeinig; cynnydd o 2.64% ar y llynedd.
Cyfleoedd gwirfoddoli
Mae’r Sialens hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifainc, gan gynnwys lleoedd mewn llyfrgelloedd er mwyn eu hysbrydoli i feddwl am eu dyfodol ac er mwyn ennill sgiliau bywyd defnyddiol. Y llynedd dewisodd 134 o bobl ifainc rhwng oedran 12 a 24 gymryd rhan yn y cyfleoedd gwirfoddoli hyn ar draws Cymru.
Gwefan Sialens Ddarllen yr Haf
Mae gwefan Sialens Ddarllen yr Haf yn gymorth i gadw cownt o’ch darllen drwy’r flwyddyn gron: gallwch ddod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen, cymryd rhan mewn cystadleuthau a sialensau bychain, a chwarae gemau.