Teitlau newydd wedi’u hychwanegu at wasanaeth E-gronau AM DDIM Llyfrgelloedd Cymru

O Heat a Grazia i Who do you think you are a’r Radio Times, mae gwasanaeth e-gronau Llyfrgelloedd Cymru yn cynnig rhywbeth i bawb, ac erbyn hyn mae’r gwasanaeth hyd yn oed yn well!
Ydych chi’n gwario mwy nag y dylech chi ar gylchgronau? Beth am bori ymysg ein casgliad o dros 200 o’r prif gylchgronau gan gynnwys teitlau’r BBC, y prif gyhoeddiadau ym maes iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs – beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, rydych yn fwy tebygol o ddod o hyd i rywbeth sy’n berthnasol i chi ac mae’r cyfan ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Fe gafodd ugain o deitlau newydd eu hychwanegu at y gwasanaeth, yn eu plith: Woman’s Weekly, Look, Heat, Grazia, Autocar, Lonely Planet Traveller, Empire, PC Advisor a’r Radio Times!
Dywedodd un defnyddiwr ‘Rwyf wrth fy modd gyda gwasanaeth e-gronau am ddim Llyfrgelloedd Cymru. Roeddwn yn arfer gwario ffortiwn ar danysgrifiadau bob mis a bob chwarter am gylchgronau, ond erbyn hyn rwy’n gallu eu lawrlwytho i gyd am ddim! Rwyf hyd yn oed yn gallu cadw ôl-rifynnau ar fy ngliniadur fel nad oes gen i dwmpathau mawr o gylchgronauI ym mhobman!’
Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn dathlu popeth digidol yr wythnos yma fel rhan o ymgyrch #CaruDigidol. O e-lyfrau ac e-gronau i hanes teulu a chwilio am waith, mae’r cyfan ar gael yn eich llyfrgell leol.
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau digidol grêt sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Cymru edrychwch ar ein gwefan: http://welshlibraries.org/cy/e-adnoddau/carudigidol/

Cookie Settings