Theory Test Pro
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brawf theori gyrru’r Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys banc o gwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i’ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Defnyddir yr holl ddeunydd dan drwydded yr Asiantaeth Safonau Gyrru, sef y bobl sy’n gosod y prawf.
Os nad ydych yn aelod o lyfrgell cyhoeddus eto, i gael mynediad i Theory Test Pro gallwch ymuno â’ch llyfrgell naill ai ar-lein neu mewn person- dilynwch y cysylltiadau isod:
- Abertawe
- Aneurin Leisure Trust (Blaenau Gwent)
- Aura Cymru (Sir y Fflint)
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Caerfyrddin
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Llyfrgelloedd Awen (Pen-y-bont ar Ogwr)
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Mon
- Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful
Sut i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro:
- Pan fyddwch yn defnyddio Theory Test Pro am y tro cyntaf, bydd angen ichi gofrestru gan nodi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Ni chodir tâl am hyn. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i Theory Test Pro gadw eich sgorau fel y gallwch ddilyn eich cynnydd wrth i chi ymarfer ar gyfer y prawf.
- Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro.
- Os ydych yn cofrestru gartref neu o unrhyw le arall ar wahân i’r llyfrgell bydd angen rhif côd bar llyfrgell dilys arnoch hefyd, sydd ar eich carden llyfrgell.