Troi Dalen Newydd i Gefnogi Iechyd Meddwl Plant

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.

Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.

Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sy’n digwydd ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn lansio Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles.

Mae dros filiwn o rieni yn credu y gallai cymorth proffesiynol fod yn llesol i’w plant yn sgil y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws[1] – ac mae Childline wedi cynnal bron i 7,000 o sesiynau cwnsela gyda phlant am effaith yr haint.[2]Mae gan un ym mhob 10 o blant Cymru sydd rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.

Mae’r rhestr ddarllen i blant, Darllen yn Well, yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion.  Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.

Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.

Meddai Karen Napier, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae un ym mhob deg o blant Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth. Yn yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu mewn pŵer darllen i daclo rhai o heriau mwyaf bywyd, ac yn y maes newydd a phwysig yma o’n gwaith byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, cyngor a straeon o ansawdd sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr, i helpu plant i reoli a deall eu teimladau ac i ymdopi mewn cyfnodau anodd.”

Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r casgliadau o lyfrau ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod llyfrau sydd ar y rhestr ar gael yn Gymraeg.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae lles plant yn bwysig bob amser, ond mae’r pandemig yma wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod gan blant fynediad at adnoddau digidol a phrint maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw sy’n helpu i’w cefnogi nhw a’u galluogi nhw i siarad am eu teimladau. Mae’n hanfodol bod y sgyrsiau yma’n gallu digwydd yn iaith gyntaf y plentyn, a dyna pam ein bod ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu’r llyfrau gwych yma.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i sicrhau’r hawliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu fersiynau electronig o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr i blant. Mae hyn yn hanfodol o ystyried pwysigrwydd cynnwys digidol yn ystod y cyfnod yma. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi dosbarthu copïau o fersiynau print o’r llyfrau am ddim i’w defnyddio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac fel rhan o’r cynlluniau clicio a chasglu. Bydd hwn yn hwb sylweddol i lyfrgelloedd a’u defnyddwyr yng Nghymru.”

Gall y casgliad o lyfrau Darllen yn Well i blant – sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan gyrff iechyd blaenllaw, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn Lloegr – gefnogi plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y tu allan i leoliadau clinigol, neu tra eu bod nhw’n aros am driniaeth.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y cynllun pwysig yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan sylweddol i gyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl a ‘Mwy na geiriau’, sef ein fframwaith ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llyfrau wedi bod yn llefydd i bobl chwilio am atebion neu i gael cysur, ac i ddianc, ers amser maith. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yma’n ysbrydoli plant a theuluoedd i ddarllen er eu lles a’u mwynhad. Does dim diwedd ar bŵer darllen, felly gadewch i ni ddefnyddio rhywfaint o’r egni yna i daclo’r heriau cynyddol mae plant yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl.”

Meddai Bethan Hughes, llyfrgellydd a chynrychiolydd ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn cael ei lansio yma yng Nghymru fel cynllun dwyieithog, ac yn gyffrous i weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r cynllun.

“Mae darllen, yn ei hanfod, yn llesol, ac mae darllen er mwyn deall emosiynau a theimladau yn hanfodol i ni i gyd, ac yn arbennig i blant wrth iddyn nhw ddysgu i ddeall y byd o’u cwmpas a’u hymateb nhw iddo.

“Bydd y cynllun yma’n gyfle i ni roi yn nwylo plant, yn eu dewis iaith, lyfrau sydd wedi eu dethol yn ofalus i gynnig cymorth iddyn nhw ddeall eu teimladau, drwy gyfrwng geiriau, lluniau a’r dychymyg.

“Mae pobl yn ymddiried yn eu llyfrgell leol fel lle i gael cymorth a gwybodaeth ddi-duedd, yn lleol yn eu cymuned, mewn lleoliad sydd ddim yn un clinigol a heb unrhyw fath o stigma yn gysylltiedig ag o. Mae’r cynllun yma’n enghraifft arall o sut y gallwn gynnig y cymorth yma.”

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yw’r trydydd cynllun Darllen yn Well i gael ei gyflwyno yng Nghymru ar ôl llwyddiant y casgliadau o lyfrau ar ddementia a iechyd meddwl. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y llyfrau Darllen yn Well i blant.

_____________________________

[1] https://www.charitytoday.co.uk/barnardos-launches-new-partnership-programme-as-children-struggle-to-cope-with-lockdown/

[2] https://www.nspcc.org.uk/about-us/news-opinion/2020/childline-coronavirus-counselling/

Cookie Settings