Wythnos Llyfrgelloedd 2022 yn Ysbrydoli Dysgu i Bawb

Eleni, bydd Wythnos Llyfrgelloedd (3-9 Hydref) yn dathlu llyfrgelloedd hoff y genedl a’r rôl ganolog y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu gydol oes. Mae’n gyfle i arddangos sut mae llyfrgelloedd ar draws pob sector yn ysbrydoli dysgu i bawb ac yn helpu unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ym mhob cyfnod o fywyd.

Trwy gydol yr wythnos byddwn yn annog defnyddwyr i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn ennyn diddordeb y gymuned leol, gyda gweithgareddau ar gyfer oedolion a phobl ifanc.

Eleni yng Nghymru, rydym yn dathlu Wythnos Llyfrgelloedd drwy lansio ein hymgyrch newydd Lle i Gysylltu. Bydd Llyfrgelloedd Cymru yn cynnal amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymhob cwr o’r wlad er mwyn galluogi pobl i gysylltu â ffrindiau neu gwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu ddysgu sgil newydd, a chael gwybod beth arall sydd ar gael iddynt yn eu cymunedau.

Ariennir ‘Lle i Gysylltu’ gan Lywodraeth Cymru ac mae’r ymgyrch yn rhan o’r cynllun ehangach Byw’n Dda yng Nghymru, sy’n amlygu’r rhan bwysig mae Llyfrgelloedd Cymru yn ei chwarae yng nghanol eu cymunedau lleol ac yn hyrwyddo’r gwaith maent yn ei wneud i gynnal iechyd a lles pobl.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad  StoryTrails yn Abertawe a Chasnewydd ym mis Awst, mae Llyfrgelloedd Abertawe yn llawn cynnwrf  i gyflwyno StoryTrails the Legacy mewn llyfrgelloedd awdurdod dethol drwy gydol Wythnos Llyfrgelloedd.

Byddwch yn gallu gweld map o stori unigryw Abertawe a grëwyd gyda’r gymuned leol, darganfod straeon newydd ac archif ffilm ar y llwybr realiti estynedig o bell, a gweld ystod o brofiadau rhithwir wedi’u creu’n benodol ar gyfer StoryTrails – ac un ohonynt wedi’i enwebu am wobr!

 

Poster for Storytrails the Legacy in Swansea Libraries during Libraries Week

Roedd StoryTrails yn brofiad adrodd straeon ymdrwythol unigryw a gynhaliwyd mewn llyfrgelloedd ar draws y DU yn ystod Haf 2022. Mae’r prosiect yn un o ddeg prosiect sydd wedi’u comisiynu fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK.

Cynhaliodd Llyfrgell Ganolog Abertawe (10- 11 Awst) a Llyfrgell Dinas Casnewydd (13-14 Awst) amrywiaeth o brofiadau ymdrwythol  rhad ac am ddim a grewyd gyda’r gymuned leol. Os nad oeddech wedi gallu ymweld ag Abertawe a Chasnewydd dros ddyddiau’r digwyddiad, gallwch lawrlwytho’r ap am ddim ac archwilio’r fersiwn ‘gartref’ o’r llwybr realiti estynedig a ddatblygwyd gan bobl greadigol leol.

Mae Llyfrgelloedd Sir Gâr wedi cynllunio’r digwyddiadau canlynol ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd:

  • Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin wedi cysylltu gyda Pharc Gwledig yr Awdurdodau i hyrwyddo cynnig i gwsmeriaid os ydynt yn ymuno â’r llyfrgell yn ystod wythnos y llyfrgell. Mae ganddynt hefyd nifer o ddyddiadau wedi eu trefnu yn archfarchnadoedd Tesco a Morrisons ar draws y sir, lle byddant yn hybu’r llyfrgell yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd.

Carmarthenshire Libraries Activities during Libraries Week

  • Dydd Llun, 3 Hydref 10am & 1.15pm – Ymweliad Ysgolion / Mewn Cymeriad / Gŵyl Plant hanes Cymru (Grŵp Theatr) yn Llyfrgell Rhydaman.
  • Dydd Llun, 3 Hydref – Amser stori yn Llyfrgell Llanelli.
  • Dydd Mawrth, 4 Hydref 11-11.45am – Sesiynau Stori a Chrefft yn Llyfrgell Llanelli
  • Dydd Mawrth, 4 Hydref 11am-12pm – Sgwrs Hanes gan Lyn John gyda grwpiau lleol yn Llyfrgell Llanelli.
  • Dydd Mercher, 5 Hydref 10-11am – Sesiwn Grefft ar gyfer canolfan ddysgu Oedolion Manor Road yn Llyfrgell Rhydaman.
  • Dydd Gwener, 7 Hydref – Amser stori drwy’r dydd (9am – 6pm) yn Llyfrgell Rhydaman.
  • Dydd Sadwrn, 8 Hydref – Lansiad Llwybr Arfordir Cymru ‘Arfordir Celf Cymru 10’ gydag Iwan Bala ac Elinor Gwynn (bardd) yn Llyfrgell Caerfyrddin.
  • Sadwrn, 8 Hydref – Clwb Lego – Llyfrgell Llanelli 9-4pm ; Llyfrgell Porth Tywyn 9-11.30am ; Llyfrgelloedd Llwynhendy a Llangennech am 10-12.30pm.
  • Dydd Sadwrn, 8 Hydref – Perfformiad gan Chris Judd Caine (Canwr) yn Llyfrgell Llanelli (11.30-12.20pm) a Llyfrgell Rhydaman (2.30-3.30pm)
  • Amryw o ymweliadau ysgol yn ystod yr wythnos ym mhob un o’r 3 llyfrgell ranbarthol.

Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau ar gyfer y genhedlaeth hŷn bob dydd Mawrth yn dechrau ar yr 11eg Hydref, 10am, sef y ‘Clwb Croeso Cynnes i’r Gaeaf‘.

I anrhydeddu Wythnos Llyfrgelloedd, mae Bolinda Audio yn eich gwahodd i sesiwn myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar ysbrydoledig gyda Caitlin Cady, a gyflwynir gan yr awdur a’r darlledwr Claudia Hammond a BorrowBox– cofrestrwch heddiw ar gyfer y sesiwn a gynhelir ddydd Gwener, 7 Hydref am 10yb

https://bolinda.zoom.us/…/reg…/WN_sjZN7707Qm2bPQ0CQZ29Gg

Caitlin Cady

Bydd Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal y digwyddiadau canlynol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd:

  • Llun, 3 Hydref 10-11am – Sgwrs Gymraeg
  • Llun, 3 Hydref 2-4pm – Grwp Cyfeillgarwch NEWYDD
  • Mawrth, 4 Hydref 2.30-4pm – Sesiwn Darllen yn Uchel
  • Mercher, 5 Hydref 1-3pm – Learning at Lunchtime
  • Iau, 6 Hydref 9.30-10.30am – Ymweliad Ysgol Alexandra
  • Iau, 6 Hydref 2-2.30pm – Stori a Chan
  • Gwener, 7 Hydref 10-10.30am – Rhymetime with Rosie
  • Gwener, 7 Hydref 2-3pm – Sesiwn Crefft i Oedolion

Ginger Pixie Photography

Bydd Llyfrgell Rhyl, Sir Ddinbych, yn cynnal y digwyddiadau yma:

  • Iau, 6 Hydref 11-12am – Grwp Llyfrau ‘Shelf Indulgence’
  • Gwener, 7 Hydref 10-12am – ‘Spinning Yarns’ Grwp Gwau a Chrefft NEWYDD
  • Gwener, 7 Hydref 1.30-2.30pm – Paned a Sgwrs Cymraeg

Ginger Pixie Photography.

Yn Llyfrgell Bargoed, Caerffili, bydd y sesiynau canlynol ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd (rhaid archebu lle):

  • Sesiynau Profi adnodd hanes teulu Ancestry 10.30-12.30
  • Cyflwyniad e-lyfrau, e-lyfrau llafar, a chylchgronau digidol y Llyfrgell 2-4pm

Mae’r digwyddiadau yma ar gael yn Llyfrgell Aberbargoed, Caerffili, hefyd:

  • Mawrth, 4 Hydref 30-11.15 – Story & Rhyme Toddler Time 
  • Mercher, 5 Hydref 10.30-12.30 – Caffi Croeso – Clwb Sgwrsio Cymraeg
  • Iau, 6 Hydref 10.00 – 12.00 – Amser Chwarae (chwarae anffurfiol gyda teganau, addas i blant 1-4 oed)

Poster for Ancestry with black and white portrait of a female

 

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i ddarganfod yr ystod o bethau y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu ar gyfer plant, i reoli eich iechyd, cael mynediad at wifi a gemau am ddim, a dod o hyd i swyddi. Mae’r ffocws ar gyfer 2022 ar ddysgu gydol oes yn gyfle gwych i fwrw goleuni ar sut y gall ein llyfrgelloedd ysbrydoli pobl i ddysgu a darganfod – beth bynnag eu hoedran – mae ein llyfrgelloedd yn adnodd sydd am ddim i bawb ei ddefnyddio a’i fwynhau.”

Ewch i wefan Llyfrgelloedd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am yr holl wasanaethau a’r gweithgareddau sydd gan eich Llyfrgell i’w cynnig drwy gydol y flwyddyn er mwyn ennyn diddordeb ein cymuned amrywiol.

 

Ginger Pixie Photography.

Gall ymwelwyr newydd gymryd rhan heddiw drwy gofrestru ar gyfer cerdyn llyfrgell [mewnosod dolen cofrestru] a chael y newyddion a’r diweddariadau mwyaf cyfredol, trwy ein dilyn ar Facebook @LlyfrgelloeddCymru, Twitter @LlyfrgellCymru & Instagram @librarieswales

Mae’r wefan a chyfryngau cymdeithasol wedi eu creu a’u cynllunio fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd.

Ymunwch yn y sgwrs #WythnosLlyfrgelloedd a darganfod mwy yn www.librariesweek.org.uk @librariesweek

Cookie Settings