Wythnos Llyfrgelloedd yn llwyddiant mawr

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru wedi dathlu Wythnos Llyfrgelloedd drwy annog pobl i ymweld â llyfrgelloedd a ‘darganfod rhywbeth newydd’. Ledled y wlad croesawodd llyfrgelloedd awduron a darlunwyr gwadd, cynhaliwyd sesiynau grwpiau darllen, gweithgareddau addysgol a llythrennedd a llawer mwy.

Yn ystod yr wythnos cafodd pobl eu hannog i ymweld â‘u llyfrgell leol a darganfod rhywbeth newydd, gan gynnwys defnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim, e-gylchgronau ac e-gomics rhad ac am ddim i’w lawr lwytho, a hyd yn oed lle i ymlacio dros goffi. 

Bu Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC yn ymweld â bore coffi elusennol yn llyfrgell Wrecsam fel rhan o’r wythnos,

“Mae’r amrywiol weithgareddau a welsom yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd yn anhygoel ond rhan fechan ydyw o’r digwyddiadau arbennig a gynhelir trwy gydol y flwyddyn mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled y wlad. Ein neges i bobl yw galwch heibio i’ch llyfrgell leol i chi ddarganfod rhywbeth newydd – gallai hynny olygu sut i reoli eich iechyd, defnyddio wifi a gemau rhad ac am ddim, dod o hyd i swydd – gallwch hyd yn oed baratoi ar gyfer eich prawf gyrru theori yno.

“Mae boreau coffi fel yr un y bues i ynddo yn Wrecsam yn dangos sut y mae cymaint o lyfrgelloedd bellach yn ganolbwynt i’r gymuned. Yn ogystal â bod yn lle i ddysgu mae hefyd yn lle i ryngweithio, a helpu lleihau unigedd cymdeithasol yn aml iawn. Beth am alw heibio i’ch llyfrgell leol chi heddiw a gweld beth all ei gynnig ichi.”

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd enfawr yn eu gwasanaethau digidol, ac os ydych yn ddarllenydd comics achlysurol neu’n hoffi gwrando ar lyfrau’n cael eu darllen ichi, mae dewis enfawr ar gael erbyn hyn. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn cynnig e-gylchgronau, e-gomics, e-lyfrau sain yn ogystal ag e-lyfrau arferol, y cyfan yn rhad ac am ddim i’w lawr lwytho i’w darllen pan fynnwch. Cynhyrchodd hyn gynnydd o 5% mewn lawr lwythiadau o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Llysgennad Wythnos Llyfrgelloedd eleni oedd y digrifwr Elis James, a ymwelodd â Llyfrgell Ganolog Caerdydd i gynnal sesiwn holi ac ateb,

“Cefais fy magu mewn amgylchedd oedd yn llawn llyfrau, ac o oedran ifanc roeddwn yn gwerthfawrogi pwysigrwydd darllen a sut allai ehangu fy meddwl. Roeddwn wrth fy modd yn mynd i’r llyfrgell ac rwy’n dal i werthfawrogi beth sydd ganddynt i’w gynnig, ac mae’n naturiol eu bod wedi gorfod ehangu eu hapêl, gan wneud hynny’n llwyddiannus iawn. Byddwn yn annog unrhyw un i fanteisio ar Wythnos Llyfrgelloedd ac ymweld â’u llyfrgell leol a darganfod beth sydd ganddynt i’w gynnig.”

Elis James efo Nick Poole o 'CILIP' yn Llyfrgell Caerdydd

Elis James efo Nick Poole o ‘CILIP’ yn Llyfrgell Caerdydd

Yn ardal Wrecsam trefnwyd nifer fawr o weithgareddau gwahanol fel y mae Shan Cooper, Llyfrgellydd Wrecsam yn esbonio,

“Er mwyn dathlu Wythnos Llyfrgelloedd un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym oedd noson arbennig yng nghwmni’r awduron llyfrau trosedd ac iasoer Paul Finch a Neil White. Yna cawsom ein bore coffi Macmillan ar y dydd Gwener gan ein bod yn credu fod gennym rôl i’w chwarae yn cefnogi’r gymuned leol a rhoi’r cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd.

“Mae’n wych cael cyfle i roi ffocws ar ein gweithgareddau yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd ond adlewyrchiad bychan yw e o’r hyn y mae llyfrgelloedd yn ei gynnig gydol y flwyddyn – felly beth am fanteisio arno?” 

Ymhlith y gweithgareddau eraill a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf ledled Cymru oedd digwyddiadau a gweithdai darllen gyda phobl fel yr awdur arobryn Giancarlo Gemin a bardd cenedlaethol pobl ifanc Cymru, Casia William a chyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru eleni ar ddydd Mawrth (10 Hydref) gan Lenyddiaeth Cymru.

Ken Skates AC, Ysgrifennydd yw Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn y ‘Bore Coffi Macmillan’ efo’r Maer ar gyfer Wrecsam Cynghorydd John Pritchard, ac aelodau staff Sarah Coupland a Nerys Woodall.

Cookie Settings