Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn dathlu Noson Lyfraur Byd yn Llyfrgell Wrecsam
Ebrill 24, 2015Mae Noson Lyfraur Byd yn mynd atin flynyddol i ddathlu llyfrau a darllen ac maen cael ei chynnal ledled y byd ar ddydd Iau 23 Ebrill a bydd llawer o lyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru ar Deyrnas Unedig yn cymryd rhan.
Fel rhan o ?yl Eiriau gyntaf Wrecsam, mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal noson o ddathliadau Noson Lyfraur Byd, trwy wahodd pobl i alw heibio a derbyn llyfr, cael cyfle i sgwrsio ag awduron lleol, clywed gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates a gwrando ar strorïau buddugol yn y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol i bobl ifanc. Bydd lluniaeth ar gael o 6.30pm.
Dywedodd Ann Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell: Nod Noson Lyfraur Byd yw cyfrannu llyfrau ac annog pobl sydd wedi collir awydd i ddarllen neu bobl sydd eto i gael yr ysfa i ddarllen i gydio mewn llyfr a darllen. Bydd gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi cannoedd ar filoedd o lyfrau yn eu cymunedau er mwyn rhannu eu cariad at ddarllen gyda phobl na fyddant yn darllen er pleser, am ba reswm bynnag, nac yn berchen ar lyfrau.
Os ydych yn darllenwr cyson neu prin yn troi tudalennau nofel, comig, papur newydd neu gylchgrawn, gallwch ddod draw in g?yl, bod yn rhan o rywbeth arbennig a helpu Noson Lyfraur Byd i rannu cariad at ddarllen ar hyd a lled Wrecsam ac, yn wir, ar draws Cymru.
Meddair Dirprwy Weinidog Mae darllen yn ffordd wych o ddianc i fydoedd eraill, boed hynnyn ffugwyddonol, hanesyddol neu nofelau cyffrous, mae rhywbeth at ddant pawb yn eich llyfrgell leol. Mae annog cariad at ddarllen yn bwysig wrth wella llythrennedd a sgiliau bywyd eraill.
Rwyf wrth fy modd yn cael fy newis fel un or gwirfoddolwyr syn cyfrannu llyfrau ar gyfer Noson Lyfraur Byd ac yn gobeithio y bydd y llyfrau ar digwyddiad yn ysbrydoli pobl i ddarllen eu ffordd tuag at antur newydd. Mae llyfrgelloedd yn drysorfa o ddeunyddiau i chi ei harchwilio felly beth am fynd draw ich llyfrgell fory a dechrau ar eich antur ddarllen.
LLUN: DM at event