Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn dathlu Noson Lyfrau’r Byd yn Llyfrgell Wrecsam

Mae Noson Lyfrau’r Byd yn mynd ati’n flynyddol i ddathlu llyfrau a darllen ac mae’n cael ei chynnal ledled y byd ar ddydd Iau 23 Ebrill a bydd llawer o lyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan.

Fel rhan o ?yl Eiriau gyntaf Wrecsam, mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal noson o ddathliadau Noson Lyfrau’r Byd, trwy wahodd pobl i alw heibio a derbyn llyfr, cael cyfle i sgwrsio ag awduron lleol, clywed gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates a gwrando ar strorïau buddugol yn y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol i bobl ifanc. Bydd lluniaeth ar gael o 6.30pm.

Dywedodd Ann Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell: “Nod Noson Lyfrau’r Byd yw cyfrannu llyfrau ac annog pobl sydd wedi colli’r awydd i ddarllen – neu bobl sydd eto i gael yr ysfa i ddarllen – i gydio mewn llyfr a darllen. Bydd gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi cannoedd ar filoedd o lyfrau yn eu cymunedau er mwyn rhannu eu cariad at ddarllen gyda phobl na fyddant yn darllen er pleser, am ba reswm bynnag, nac yn berchen ar lyfrau.

“Os ydych yn darllenwr cyson neu prin yn troi tudalennau nofel, comig, papur newydd neu gylchgrawn, gallwch ddod draw i’n g?yl, bod yn rhan o rywbeth arbennig a helpu Noson Lyfrau’r Byd i rannu cariad at ddarllen ar hyd a lled Wrecsam ac, yn wir, ar draws Cymru.”

 

Meddai’r Dirprwy Weinidog “Mae darllen yn ffordd wych o ddianc i fydoedd eraill, boed hynny’n ffugwyddonol, hanesyddol neu nofelau cyffrous, mae rhywbeth at ddant pawb yn eich llyfrgell leol. Mae annog cariad at ddarllen yn bwysig wrth wella llythrennedd a sgiliau bywyd eraill.

 

“Rwyf wrth fy modd yn cael fy newis fel un o’r gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu llyfrau ar gyfer Noson Lyfrau’r Byd ac yn gobeithio y bydd y llyfrau a’r digwyddiad yn ysbrydoli pobl i ddarllen eu ffordd tuag at antur newydd. Mae llyfrgelloedd yn drysorfa o ddeunyddiau i chi ei harchwilio – felly beth am fynd draw i’ch llyfrgell fory a dechrau ar eich antur ddarllen.”

 

LLUN: DM at event

 

Cookie Settings