Y Plant yn Cymryd yr Awenau

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai gweithio yn eich llyfrgell leol neu mewn gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd? Dyma’ch cyfle chi.

Mae amgueddfeydd, orielau, mudiadau celfyddydol, archifau a safleoedd treftadaeth ledled y Deyrnas Unedig yn paratoi i wahodd plant a phobl ifanc i gymryd drosodd am y dydd. Ond sut gall plant Wrecsam gymryd rhan?

Mae ar Lyfrgell Wrecsam a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam eisiau i blant blynyddoedd 6, 7 a/neu 8 (10, 11 a/neu 12 oed) i wneud cais drwy lythyr am y swyddi canlynol: Gofalwr, Llyfrgellydd Cyfeirio, Cymhorthydd Llyfrgell x 2, Llyfrgellydd Blynyddoedd Cynnar, Llyfrgellydd y Llinell Fusnes, Cymhorthydd Gwybodaeth

Yn eich llythyr fe ddylech chi nodi pa swydd yr hoffech chi ei chael a pham. Anfonwch eich llythyr at Mrs Shan Cooper yn Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU. Y dyddiad cau yw 1 Chwefror 2016. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090 neu anfonwch e-bost at library@wrexham.gov.uk.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn swydd y Cymhorthydd Gwybodaeth, anfonwch eich llythyr at Alma Belles yn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU. Am fwy o wybodaeth am swydd y Cymhorthydd Gwybodaeth ffoniwch 01978 292094 neu anfonwch e-bost at fis@wrexham.gov.uk.

Cookie Settings