Ydych chi wedi cynllunio’r hyn y byddwch yn ei wylio ar y teledu dros y Nadolig?

O’r Radio Times a TV Times i Heat a Grazia, mae gwasanaeth e-gronau Llyfrgelloedd Cymru yn cynnig rhywbeth i bawb, ac erbyn hyn mae’r gwasanaeth hyd yn oed yn well!

Fyddwch chi’n gwario mwy nag y dylech chi ar gylchgronau? Beth am gael cip ar ein casgliad o dros 200 o’r prif gylchgronau gan gynnwys prif deitlau’r BBC, y prif gyhoeddiadau iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs – beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mae’n fwy na thebyg y byddwch yn gweld rhywbeth at eich dant ac mae’r cyfan ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Rydym wedi ychwanegu ugain o deitlau newydd at y gwasanaeth, gan gynnwys: Woman’s Weekly, Look, Heat, Grazia, Autocar, Lonely Planet Traveller, Empire, PC Advisor a’r Radio Times!

Dywedodd un defnyddiwr ‘Rwyf wrth fy modd gyda’r gwasanaeth e-gronau am ddim gan Lyfrgelloedd Cymru. Ro’n i’n arfer gwario ffortiwn ar danysgrifiadau i gylchgronau bob wythnos a phob mis, ond erbyn hyn rwy’n gallu lawrlwytho’r cyfan am ddim! Rwyf hyd yn oed yn gallu cadw ôl-rifynnau ar fy nhabled fel nad oes gen i dwmpathau o gylchgronau ym mhobman!’
I gael gwybod mwy am y gwasanaeth digidol grêt sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Cymru, edrychwch ar ein gwefan: http://welshlibraries.org/e-resources/lovedigital/

Cookie Settings