Ymunwch â miloedd o ddysgwyr mewn cannoedd o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled Cymru yr wythnos hon

Wythnos Addysg Oedolion 13 – 29 Mehefin 2015 yw’r ?yl addysgol flynyddol fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae’n ysbrydoli miloedd o bobl bob blwyddyn i ddarganfod sut gall addysg newid eu bywydau. Ar hyd a lled Cymru bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal a thua 20,000 o bobl yn mynychu digwyddiad a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

Mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn fannau allweddol ar gyfer addysg oedolion a byddant yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gyda chymaint i ddewis o’u plith mae’n sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.

O sesiynau blasu cyfrifiaduron, dyfeisiau a gismos a the a thabledi, i glybiau gwaith a thechnegau cyfweliad; ac o sesiynau crefftau a gwneud gemwaith i gadairobig, tai chi neu salsa. Beth am ymuno â gr?p – darllen, ysgrifennu creadigol neu wau a chlonc – dysgu sgiliau newydd a chlywed am anturiaethau pobl eraill a’u teithiau trwy fywyd.

I gael gwybod mwy am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi drwy gydol y flwyddyn ewch draw i’ch llyfrgell leol, edrychwch ar eu tudalen Facebook neu wefan neu ewch i: http://bit.ly/1FwJ1wP

Cookie Settings