Prosiect Torfoli y Drenewydd yn Galw am Wirfoddolwyr

Casgliad Ffotograffiaeth David Pugh

Ydych chi’n hoff o edrych ar hen ffotograffau? Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y Drenewydd a’i phobl? Mae Casgliad y Werin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar-lein i gyfoethogi casgliad ffotograffig David Pugh (1942–2017) o’r Drenewydd.

© Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd

Roedd David Pugh yn un o groniclwyr mwyaf y Drenewydd ac yn angerddol ynghylch trosglwyddo hanes, straeon a gwybodaeth am y Drenewydd a’i phobl i genedlaethau’r dyfodol. Tynnodd David Pugh filoedd o luniau yn cofnodi’r newidiadau a welodd y dref dros y degawdau diwethaf, yn ogystal â dwyn ynghyd ffotograffau hanesyddol sy’n adrodd hanes pwysig y dref o safbwynt diwydiant a masnach.

Ffotograffydd: David Pugh

© Llyfrgell y Drenewydd

Nawr mae Casgliad y Werin Cymru yn gweithio gyda Llyfrgell y Drenewydd i recriwtio gwirfoddolwyr ar-lein i gyfoethogi ffotograffau David Pugh gyda theitlau, disgrifiadau a dyddiadau drwy ddefnyddio llwyfan torfoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Unwaith y bydd y delweddau hyn wedi’u gwella gyda metadata hanfodol cânt eu cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru a byddant ar gael i bawb eu mwynhau. 

© Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd

I gyfrannu at y project cyffrous hwn a helpu i sicrhau nad ydi’r hanes hwn a gofnodwyd am y Drenewydd yn cael ei golli, ewch i’r wefan torfoli, neu gwyliwch y fideo rhagarweiniol byr hwn am y project.

© Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd

Gall Casgliad y Werin Cymru roi cymorth a chyngor i chi ar sut i ddefnyddio’r  wefan torfoli ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y project. Anfonwch e-bost atynt: casgliadywerin@llgc.org.uk

Cookie Settings