Ystadegau’n datgelu cynnydd mawr yn y defnydd o Argraffiad Llyfrgell Ancestry yn 2021
Ionawr 17, 2022Mae ystadegau Ancestry dros Gymru am y ddwy flynedd ddiwethaf yn datgelu poblogrwydd cynyddol ymchwilio hanes teulu wrth i filoedd o ddefnyddwyr dros Gymru fanteisio ar argaeledd o bell yr adnodd poblogaidd.
Yn 2021, gwnaethpwyd 2,030,158 o chwiliadau mewn 86,512 o sesiynau gan ddefnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, o’i gymharu â 1,036,088 o chwiliadau mewn 40,588 o sesiynau yn 2020, gan ddatgelu cynnydd o dros 100% mewn sesiynau chwilio a gynhaliwyd yn 2021 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae Ancestry yn dod ag adnodd defnyddwyr ar-lein mwyaf poblogaidd y byd i’ch llyfrgell. Mae’n gasgliad ar-lein digynsail o unigolion o’r Deyrnas Unedig, Gogledd America,, Ewrop, Awstralia, a mwy.
Ar fwy na 7,000 o gronfeydd data sydd ar gael, gallwch ddatgloi eich stori chi gyda ffynonellau fel cyfrifiadau, cofnodion sifil a phlwyf, cofnodion mewnfudo, hanes teuluol, cofnodion milwrol, dogfennau llys a chyfreithiol, cyfeiriaduron, lluniau, mapiau a mwy.
Yn dilyn proses gaffael ddiweddar, mae contract newydd wedi’i sicrhau gyda Ancestry o 1 Ebrill 2022 am 4 blynedd arall , sy’n galluogi defnyddwyr i barhau â’u mwynhad o ymchwil hanes teulu am ddim gan ddefnyddio eu haelodaeth llyfrgell yng Nghymru, diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae adnoddau digidol eraill a ariennir yn ganolog hefyd ar gael am ddim drwy aelodaeth eich llyfrgell cyhoeddus, fel Borrowbox (e-lyfrau ac e-lyfrau llafar), Overdrive / Libby (cylchgronau digidol) a Well Informed (adnodd Theory Test Pro), ac mae’r mynediad i’r adnoddau yma wedi bod yn amhrisiadwy i lawer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod cyfnod y cyfyngiadau o ganlyniad i bandemig Covid-19:
‘Mae’r gwasanaethau ar-lein wedi bod yn werthfawr tu hwnt i mi; mae hanes teulu yn hobi mor ysgogol ac yn heriol yn feddyliol. Mae gallu cael mynediad i wasanaethau ar-lein yn wych pan fydd gennyf amser sbâr…’ (Defnyddiwr Argraffiad Llyfrgell Ancestry, 2021)
Ym mis Mawrth 2020 bu’n rhaid i lyfrgelloedd ledled y byd gau eu drysau oherwydd y pandemig byd-eang. Gwnaeth ProQuest a Ancestry y penderfyniad digynsail i roi mynediad o bell dros dro i lyfrgelloedd cyhoeddus i Ancestry i’r rhai a allai ddarparu dull dilysu diogel.
Ar ôl bron i 2 flynedd o fynediad dros dro, ac ar ôl i’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd ailagor eu drysau, gwnaeth Ancestry y penderfyniad anodd i roi terfyn ar fynediad o bell ar ddiwedd 2021. Mae Ancestry yn teimlo gofal mawr tuag at lyfrgelloedd a’u defnyddwyr, ond mae ganddynt gytundebau â chyhoeddwyr ac ystyriaethau busnes eraill sy’n eu hatal rhag cynnig mynediad o bell yn barhaol.
Gall defnyddwyr o ddechrau Ionawr 2022 gael mynediad i Ancestry drwy gyfrifiaduron a ddarperir gan eich llyfrgell neu archif / swyddfa gofnodion neu drwy ddefnyddio eu gliniadur personol, tabled neu ffôn symudol eu hunain yn y llyfrgell.
Cysylltwch â’ch llyfrgell os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am fynediad lleol ar y safle. Gallwch ddefnyddio Ffeindio’ch Llyfrgell Leol ar wefan Llyfrgelloedd Cymru i gael y manylion cyswllt.