#DymaFySilff – Wythnos Llyfrgelloedd yn Dathlu Llyfrau a Darllen
Hydref 8, 2020Bydd Wythnos Llyfrgelloedd 2020 yn cael ei chynnal rhwng 5-10 Hydref, ac yn dathlu llyfrgelloedd poblogaidd y genedl a’u rôl hanfodol yn niwylliant llyfrau y DU. Bydd yn siawns i lyfrgelloedd ymhob sector gael dathlu llyfrau a darllen, ac i arddangos eu cynnig darllen a’u cyfraniad i ddatblygu Cenedl o Ddarllenwyr.
Dywedodd Eloise Williams, Children’s Laureate Wales ‘Libraries are the palaces of imagination. There is a truly magical connection being made every time a story is read. Each book is an enchanting spell of words. You, as the reader, are an essential part of creating that magic. Without you the story doesn’t exist. All you have to do to be a magician is pick up a book and read!’
Dyma rai mentrau llyfrgell diweddar i roi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi …
Cyflwynwyd menter hashtag #DymaFySilff eleni fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd, gyda Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, Children’s Laureate Wales, Eloise Williams, Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, ac Awduron y Mis Llyfrgelloedd Cymru, Daniel Davies a Stevie Davies, ymhlith eraill, yn cymryd rhan mewn rhannu delweddau o’u silffoedd darllen a’u hoff lyfrau ar sianelau cyfryngau cymdeithasol.
Bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn cynnal cyfweliadau gydag awduron a lansiadau llyfrau. Bydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn sgwrsio â’r awdur lleol Kat Ellis ac yn cael gwybod am ei nofel ddiweddaraf, Harrow Lake, yn ystod yr wythnos, a bydd Llyfrgelloedd Ceredigion yn cyfweld â’r tenor Cymreig Aled Wyn Davies a’r seren rygbi Luke Upton ac yn sgwrsio am eu cyhoeddiadau diweddar.
Hefyd bydd Llyfrgelloedd Cymru yn lansio Blog newydd i Bobl Ifanc ar eu gwefan, sef llwyfan ddwyieithog i brofiadau darllen bobl ifanc yng Nghymru! Darllenwch y Blog cyntaf, sef adolygiad gan Sian Williams o ‘Girl with a Louding Voice’ gan Abi Dare. I ddarllen y Blog cliciwch yma.
Ffurfiwyd Grŵp Darllen Arlein Cymru ym mis Ebrill eleni i gefnogi darllenwyr yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu, pan nad oedd grwpiau darllen llyfrgelloedd arferol yn gallu cyfarfod. Ma’ bron 400 aelod wedi ymuno â’r grwp ers hynny. Mae teitlau Cymraeg a Saesneg ar gael bob mis drwy wasanaeth Borrowbox Llyfrgelloedd Cymru, a cynhelir trafodaethau am y llyfrau ddwywaith y mis. Ceir mynediad i’r Grŵp Llyfrau drwy gyfrif Facebook @WelshLibraries, ac ma’ croeso cynnes i aelodau newydd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd.
Mae AmserGartref BookTrust Cymru yn adnodd dwyieithog i chi ei archwilio a chael hwyl gydag ef fel teulu. Mae gan y wefan ystod eang o straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu, a gemau a gweithgareddau hwyliog gan awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru. Profwch eich gwybodaeth mewn cwisiau llyfrau, neu fe allwch ddysgu sut i dynnu lluniau rhai o’ch hoff gymeriadau.
Mae’r National Shelf Service yn ddarllediad YouTube sy’n cynnwys argymhellion llyfrau gan lyfrgellwyr proffesiynol. Fe’i lansiwyd gan CILIP a’r Grŵp Llyfrgelloedd Ieuenctid ac fe’i gefnogir gan Nielsen Books, OverDrive, RB Digital, Bolinda a llyfrgelloedd cysylltiedig. Mae’r fideos dyddiol wedi bod yn helpu plant a theuluoedd i ddarganfod profiadau darllen newydd, amrywiol. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin cynhaliwyd darllediadau o ddydd Llun i ddydd Gwener am 11am gyda darllediadau wythnosol yn cael eu rhyddhau dros yr Haf. Roedd y teitlau a ddewiswyd ar gael i’w benthyg fel e-lyfrau o’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol drwy eu gwefannau. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r argymhellion e-lyfrau drwy eich llyfrgell leol ewch i www.cilip.org.uk/NationalShelfServiceFAQs.
Mae Libraries Connected yn ddiweddar wedi bod yn arddangos y gwasanaethau digidol gorau o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy eu tudalennau #LibrariesFromHome newydd. Ar y tudalennau Libraries From Home gallwch ddod o hyd i sesiynau rhigwm ar-lein rhagorol, amseroedd stori a chlybiau lego sy’n cefnogi llythrennedd cynnar a meddwl yn greadigol. Maent hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau i gadw oedolion mewn cysylltiad a’u gilydd drwy grwpiau darllen llyfrgell a grwpiau trafod llyfrau.
Mae Hwb y Reading Agency yn rhoi mynediad i gyfoeth o syniadau, gweithgareddau a heriau i’ch diddanu a’ch addysgu chi a’ch teulu. Mae’r gweithgareddau ar gael i’w lawrlwytho, ac maent yn cynnwys Pecynnau Darllen Digidol, Rhestrau Llyfrau pwnc-benodol, gan gynnwys cefnogi iechyd a lles mewn cyfnod heriol.
Cefnogodd y Reading Agency Sialens Darllen yr Haf yn ddigidol eleni, gyda tudalennau Cymraeg am y tro cyntaf, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Thema’r her eleni oedd ‘Sgwad Gwirion’ a dathlwyd llyfrau doniol, hapusrwydd a chwerthin. https://readingagency.org.uk/hub/
Os hoffech gael y manylion diweddaraf am Wythnos Llyfrgelloedd 2020, dilynwch @librariesweek a rhannwch eich cynlluniau gan ddefnyddio #WythnosLlyfrgelloedd neu #LibrariesWeek. http://www.librariesweek.org.uk