Helpu Pobl i Heneiddio’n Dda yng Nghymru
Tachwedd 21, 2022Mae Llyfrgelloedd Cymru yn lansio ymgyrch i hyrwyddo’r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi pobl yng Nghymru i fyw a heneiddio’n dda.
Bydd Heneiddio’n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru yn tynnu sylw at rôl bwysig llyfrgelloedd i annog pobl i gyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol waeth beth fo’u hoedran. Bydd Llyfrgelloedd Cymru’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ceisio gwella lles pobl wrth iddynt heneiddio.
Mae llyfrgelloedd yn asedau pwysig o fewn eu cymunedau lleol, sy’n darparu gofodau croesawgar a hygyrch ar gyfer cyfranogiad helaeth sy’n gallu cefnogi pobl hŷn i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cymdeithasol. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth i wella hyder digidol pobl, gan eu hannog i archwilio’r byd digidol, ond hefyd gallant ddarparu cyswllt hanfodol wyneb yn wyneb sydd yn brin yn y gymdeithas brysur sydd ohoni heddiw
.
Bydd yr ymgyrch yn dangos sut y gall llyfrgelloedd ddarparu cyfleoedd dysgu a chefnogi ymgysylltiad cymdeithasol sy’n caniatáu i bobl o bob oedran barhau i ffynnu ac er budd eu hiechyd a’u lles.
Mae Heneiddio’n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru yn ffurfio rhan o brosiect ehangach Byw’n Dda yng Nghymru, sy’n amlygu’r rôl bwysig mae Llyfrgelloedd Cymru yn ei chwarae yng nghanol eu cymunedau lleol a hyrwyddo’r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl.
Mae Llyfrgelloedd mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu ystod o fanteision o ran iechyd a lles i’w cymunedau lleol. Maent yn adnodd gwych, yn nhermau’r wybodaeth a’r deunyddiau sydd ganddynt i’w cynnig ac fel canolbwynt o fewn eu cymuned lle gall pobl ddod ynghyd ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sydd o fudd i’w lles. Mae’r prosiect Byw’n Dda yng Nghymru yn fenter genedlaethol sy’n ceisio dathlu llyfrgelloedd Cymru a’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud yn ogystal ag annog pobl i gael mwy o fudd o’u llyfrgell leol.
Dywedodd Arweinydd Iechyd a Lles Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Kate Leonard:
“Mae ein hymgyrch ‘Heneiddio’n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru’ yn dangos sut mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i gefnogi Cymru sydd o blaid pobl hŷn. Rydym eisiau annog cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â’u llyfrgell leol, ac i weld beth sydd gennym i’w gynnig o ran cyfleoedd dysgu, cymorth digidol ac ystod eang o weithgareddau a fydd yn datgloi potensial pobl o unrhyw oedran.
“Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw ailadeiladu hyder pobl hŷn yn dilyn Covid, ac i’w cefnogi i ailgysylltu â’u teuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Mae ein llyfrgelloedd mewn lleoliad perffaith i ddarparu gofod cymunedol sy’n caniatáu i bobl ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, cysylltwch â: byw.dda.yng.nghymru@llgc.org.uk