Delyth Jenkins
Rhagfyr 6, 2023
Mae Delyth Jenkins yn fam, yn nain, ac yn delynores. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r band gwerin o Abertawe Cromlech, ac yna aeth ymlaen i ffurfio’r triawd offerynnol arloesol Aberjaber. Mae hi’n chwarae mewn deuawd gyda’i merch Angharad Jenkins, a gyda’i gilydd maen nhw’n cael eu hadnabod fel DnA.
Yn 2019, cyhoeddodd y llyfr That Would Be Telyn (Y Lolfa,) sy’n adrodd hanes ei thaith o gwmpas Llwybr Arfordir Sir Benfro gyda’i thelyn fach. Mynd i Weld Nain yw ei llyfr cyntaf i blant.
Mae’r llyfr wedi’i selio ar atgofion Delyth o’i phlentyndod, ac yn dilyn dwy chwaer a’u mam wrth iddynt ymweld â Nain yn ei byngalo yng nghanol y wlad ble maen nhw’n cael Nadolig perffaith drwy fwyta llond eu boliau ac adeiladu dyn eira. Mae hud y Nadolig a’r cariad rhwng Nain a’i hwyresau yn gynhesrwydd drwy’r llyfr. Mewn ffordd gynnil hefyd, mae’r stori yn cyffwrdd â’r syniad o farwolaeth. Atgyfnerthir y syniad ei bod hi’n bwysig parhau i siarad am aelodau’r teulu sydd wedi marw er mwyn cadw’r atgofion amdanyn nhw’n fyw.
Llongyfarchiadau Delyth ar gyhoeddi Mynd i Weld Nain gyda’r Lolfa. Rho ychydig o dy gefndir inni…
Cefais i fy ngeni a fy magu dros y ffin yng Nghroesoswallt. Er bod fy mam yn siarad Cymraeg, Saesneg oedd iaith yr aelwyd, gan nad oedd fy nhad yn siarad Cymraeg. Dysgais i Gymraeg fel oedolyn, a dwi’n hynod o falch bod fy merched wedi eu magu yn siarad Cymraeg. Mae’r llyfr Mynd i Weld Nain yn dathlu sut y bu i’r iaith Gymraeg ddychwelyd at deulu ar ôl iddi bron â mynd ar goll.
Pan oedden ni’n byw yng Nghroesoswallt, es i i’r National School. Ac wedyn symudodd y teulu i’r Amwythig, a chefais i fy addysg yn Shrewsbury High School.
Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?
Roedden ni’n byw ar y ffordd sy’n ymdroelli lan i Selatyn, gyferbyn â Brogyntyn, stad Arglwydd Harlech. Roeddwn i a’m dau frawd yn dringo dros y wal a threulio oriau yn chwarae yno – ond roedd rhaid cadw llygad rhagofn i’r cipar ein dal!
Dydy Croesoswallt ddim yn bell o Lanerfyl, Sir Drefaldwyn, ble cafodd fy mam ei magu. Roedden ni’n ymweld yn aml â Goetre ̶ fferm lle oedd ei dau frawd a’i rhieni yn ffermio. Mae gen i atgofion melys o chwarae a rhedeg yn rhydd ar y fferm. Ac wrth gwrs – y te! Dw i’n cofio eistedd o gwmpas y bwrdd ̶ fy mam a’r teulu Goetre yn trio siarad Saesneg oherwydd fy nhad. Ond mae’n anodd iawn newid arferiad oes. Felly, er nad oeddwn i’n deall beth oedd yn cael ei ddweud, roeddwn i’n clywed Cymraeg o oedran cynnar.
Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat? Miwsig, enwogion, rhaglenni teledu, llyfrau, cylchgronau, pobl yn dy fywyd bob dydd…
Roeddwn i’n lwcus iawn o gael plentyndod hapus, ac roedd fy rhieni yn ddylanwad enfawr arnaf. Roedd fy mam yn fam berffaith, llawn cariad ac yn gofalu amdanon ni fel teulu. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd fy nhad yn wrthwynebwr cydwybodol, ac mae gen i gymaint o barch tuag ato. Buodd e mor ddewr, a glynu wrth ei egwyddorion ar hyd ei oes. Roedd hefyd yn ddewr ac yn onest iawn wrth iddo wynebu ei farwolaeth yn rhy gynnar, Mae ei ddewrder wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi erioed.
Roedd y capel yn ddylanwad mawr, a dysgu adnod bob wythnos (yn Saesneg).
O ran rhaglenni, roeddwn i’n hoff iawn o The Woodentops, Andy Pandy, Pinky and Perky, a Tales by the Riverbank. Ac yn fy arddegau, roeddwn i’n dwlu ar The Magic Roundabout, a ddaeth yn dipyn o ‘cult classic’.
Fy hoff lyfr pan oeddwn i’n fach oedd Ginger’s Adventures, sy’n rhan o gyfres Ladybird. Mae copi dal gen i, ac mae fy wyrion yn hoff iawn ohono!
Y record gyntaf i fi brynu oedd You Were Made for Me gan Freddie and the Dreamers. Mae fy chwaeth gerddorol wedi datblygu ers hynny…!
Beth yw dy ddylanwadau nawr?
Yn gerddorol – Llio Rhydderch yn bennaf. Ond mae llawer llawer mwy – gormod i’w rhestru!
Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?
Dw i’n credu fy mod i eisiau sgwennu erioed, ond mae wedi cymryd amser hir i mi fagu’r hyder i wneud. A’r rheswm dwi’n sgwennu ydy oherwydd bod gen i stori i’w hadrodd, a gobeithio y bydd pobl eisiau’i chlywed hi…
Dywed ychydig am Mynd i Weld Nain, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…
Mae Mynd i Weld Nain yn hunangofiannol. Y Nain yn y llyfr yw fy mam, a’r ddwy ferch fach yw fy merched, sydd bellach yn eu tridegau. Y rheswm gwreiddiol dros ysgrifennu’r llyfr oedd er mwyn i’r merched a fy wyrion gael rhyw syniad o sut berson oedd Nain. Bu hi farw pan oedd y merched yn ddim ond 6 a 4 oed, felly mae eu hatgofion ohoni yn frith. Nawr fy mod i wedi ysgrifennu’r llyfr, bydd hanes cryno’r teulu yno iddyn nhw am byth, a phan fydda i ddim o gwmpas rhagor i adrodd yr hen straeon.
Ond mae Mynd i Weld Nain yn fwy na stori fy nheulu i. Mae’n sôn am gariad rhwng y cenedlaethau a allai fod yn unrhyw deulu, a sut y gallwch chi ddangos cariad at blant heb roi llwyth o anrhegion drud iddynt. Mae Nain yn rhoi ei hamser i gadw pethau bach fel botymau a rhubanau a fydd yn tanio dychymyg y merched wrth iddyn nhw chwarae. Mae hi hefyd yn dangos ei chariad trwy goginio bwyd da iddyn nhw. Un o’r danteithion mwyaf cofiadwy mae hi’n ei wneud yw’r deisen Nadolig gyda dyn eira ar y top. Gan fod Nain mor arbennig, mae’r merched yn dychmygu bod y dyn eira ar y deisen yn hedfan – neu ydy e wir yn hedfan? Mater i’r darllenydd yw dychmygu a phenderfynu…
Mae’r syniad o dyfu i fyny a heneiddio yn cael ei gyflwyno i’r merched mewn ffordd hollol naturiol. Mae Nain yn dangos llun iddyn nhw o’u mam pan oedd hi’n fach, gyda dau fachgen. Dydy’r merched ddim yn adnabod y plant yn y llun, ond mae Nain yn esbonio mai nhw yw eu mam a’u dau ewythr (sydd bellach yn foel!).
Ac mewn ffordd gynnil, cyffyrddir â’r syniad bod aelodau’r teulu’n marw. Mae Nain yn atgoffa’r merched cymaint y byddai Taid wedi eu caru nhw. Mae’r stori’n atgyfnerthu’r syniad ei bod hi’n bwysig parhau i siarad am aelodau’r teulu nad ydyn nhw bellach gyda ni, a chadw atgofion ohonyn nhw yn fyw. Y Taid yn y stori yw fy nhad. Ei enw oedd Berwyn. Yn anffodus bu iddo farw cyn i’r merched gael eu geni. Ond erbyn hyn mae gen i ddau ŵyr, dau nai a phedwar gor-nai – a Berwyn yw eu henw canol! Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn rhoi ffenest fach iddyn nhw ddeall sut fath o ddyn oedd Taid.
Beth yw dy hoff genres darllen, a pha lyfrau wyt yn darllen ar hyn o bryd?
Dw i’n hoff iawn o ddarllen nofelau a chofiannau. Yn ddiweddar dw i wedi mwynhau Drift gan Caryl Lewis, Hallt gan Meleri Wyn James a Burial Rites gan Hannah Keny. A dw i newydd orffen One Hundred Miracles, hunangofiant syfrdanol yr harpsichordist Tsiecaidd, Zuzana Ruzickova, a oroesodd erchyllterau Auschwitz a Bergen-Belson, i ddod yn un o gerddorion amlycaf yr ugeinfed ganrif yn ei maes. Dw i hefyd yn mwynhau llyfrau ffeithiol, ac yn hoff iawn o lyfrau Robert MacFarlane.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?
Dw i’n dwlu ar lyfrgelloedd – sydd falle yn newyddion drwg i siopau llyfrau! Ac fel rhan o fy ‘portfolio career’ bues i’n gweithio’n rhan amser yn Llyfrgell Ganolog Abertawe am gwpl o flynyddoedd.
Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Dechreuwch ddarllen gyda nhw yn gynnar! A dewiswch lyfrau rydych chi’n eu mwynhau. Oherwydd os ydych chi’n mwynhau, fe fydden nhw yn mwynhau hefyd.
Rho ddyfyniad sydd wrth wraidd dy fywyd di…
Mae’r cloc yn tician, felly mae’n well gwneud y gorau o bob dydd.
Cyhoeddwyd Mynd i Weld Nain ar y 30ain o Dachwedd gan Y Lolfa.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg