Hydref 2, 2024
Rolant Tomos
Ganwyd a magwyd Rolant Tomos yn Nolgellau, ac fe aeth i’r coleg yn Aberystwyth a Denmarc i astudio Ffilm. Bu’n gweithio am gyfnod fel cyfarwyddwr teledu. Wedi cyfnod yn y maes bwyd a diod, gan gynnwys amser yn rhedeg bragdy, fe ddychwelodd Rolant at y diwydiannau creadigol. Erbyn hyn mae’n byw ym Mro Morgannwg gan […]
Darllen MwyMedi 9, 2024
Catrin Gerallt
Nofel antur a dirgelwch sy’n llawn hiwmor yw llyfr newydd Catrin Gerallt, Y Ferch ar y Cei, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae Catrin yn enedigol o sir Benfro, ond wedi’i magu yng Nghaerdydd ac yn gyfarwydd iawn â rhychwant eang o fywyd a hiwmor y ddinas. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith […]
Darllen MwyAwst 1, 2024
Pryderi Gwyn Jones
Ganed Pryderi Gwyn Jones yn Aberystwyth, a chafodd ei fagu yn Llansannan, Dyffryn Clwyd, ac ym Mangor. Wedi cyfnod o deithio gwledydd Ewrop a De America symudodd i’r canolbarth. Mae’n athro ysgol ers blynyddoedd, yn hoff o siarad am bêl-droed ac yn mynd i focsio i Gorris Uchaf bob wythnos. Mae wedi ysgrifennu sawl […]
Darllen MwyGorffennaf 1, 2024
Iola Ynyr
Mae Iola yn artist llawrydd sydd yn arbenigo mewn gwaith theatr a digidol fel cyfarwyddwraig, dyfeiswraig ac awdur ynghyd â chynlluniau cyfranogi gyda grwpiau lleiafrifol. Bu’n Gyfarwyddwraig Artistig i Gwmni’r Frân Wen am bum mlynedd ar hugain. Mae ganddi dri o blant, Erin, Mared a Gruff ac yn byw yng Nghaernarfon gyda Huw. Cyfres […]
Darllen MwyMehefin 4, 2024
Aled Emyr
Magwyd Aled Emyr yn y Felinheli. Graddiodd mewn cerddoriaeth yn Llundain cyn dychwelyd i’r Felinheli i ddilyn ei freuddwyd i gael ysgrifennu. Trigo yw ei nofel gyntaf. “Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae’r tensiwn rhwng y Pedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi’r ynysoedd draw i’r brifddinas ar Ynys Wen gyda […]
Darllen MwyMai 1, 2024
Siân Lewis
[Scroll down for English] Magwyd Siân yn Aberystwyth. Aeth i astudio Ffrangeg yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i ardal Aberystwyth. Bu’n gweithio am gyfnod fel llyfrgellydd, ac yna i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun. Mae wedi ysgrifennu dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc, yn Gymraeg a […]
Darllen MwyEbrill 10, 2024
Ffion Emlyn
Yn wreiddiol o Feddgelert, treuliodd Ffion gyfnodau yn byw yng Nghaerdydd a Chaernarfon a theithio ychydig o’r byd cyn dychwelyd i bentref y ci enwog. Fe wnaeth fwynhau gyrfa ym myd y theatr cyn ymuno â’r BBC i weithio fel cynhyrchydd radio gyda chyfnodau fel cynhyrchydd stori a golygydd sgript ar wahanol raglenni’r BBC. […]
Darllen MwyMawrth 5, 2024
Llwyd Owen
Brodor o Gaerdydd yw Llwyd Owen, yn byw yn ardal Rhiwbeina gyda’i deulu. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 a chyrhaeddodd ei nofela Iaith y Nefoedd (2019) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020. Yn ogystal â’i nofelau niferus, mae gan Llwyd hefyd bodlediad poblogaidd o’r enw Ysbeidiau […]
Darllen MwyChwefror 1, 2024
Valériane Leblond
[scroll down for English] Cafodd Valériane Leblond ei magu yn Ffrainc, ond bellach mae’n byw yng Nghymru gyda’i phartner, pedwar mab, a chath. Mae hi’n paentio yn ei stiwdio gartref ac yn siarad Cymraeg rhugl yn ogystal â nifer o ieithoedd eraill. Mae ei gwaith celf yn aml yn ymdrin â’r syniad o berthyn […]
Darllen Mwy